Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid. 1.2 Nododd y
Cadeirydd fod Mark Reckless AS bellach wedi gadael y Pwyllgor, a diolchodd iddo
am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor. |
|
(14.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2020 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
|
PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 21 Hydref 2020 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at Archwilio Cymru: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – adran 118 – 27 Hydref 2020 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd: Craffu ar reoliadau COVID-19 – 22 Hydref 2020 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Data Cwynion y GIG – 27 Hydref 2020 Dogfennau ategol: |
||
(14.30-15.30) |
Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro: Sesiwn dystiolaeth Adrian Crompton,
Archwilydd Cyffredinol Cymru Lindsay Foyster,
Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru Nicola Evans,
Pennaeth Cyllid, Archwilio Cymru Papurau
ategol: FIN(5)-20-20 P1 -
Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i
ben 31 Mawrth 2022 FIN(5)-20-20 P2 -
Gwybodaeth ategol ar gyfer yr Amcangyfrif o Incwm a Threuliau Archwilio Cymru
ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben 31 Mawrth 2022 FIN(5)-20-20 P3 -
Adroddiad Interim – Asesiad o gynnydd a wnaed o’i gymharu â’n Cynllun Blynyddol
2020-21 yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2020 FIN(5)-20-20 P4 -
Llythyr gan Archwilio Cymru - Gwaith Craffu Blynyddol y Pwyllgor Cyllid ar
Swyddfa Archwilio Cymru - 1 Hydref 2020 Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Wrth graffu
ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan y tystion a ganlyn: Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Lindsay
Foyster, Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru; a Nicola Evans, Pennaeth Cyllid,
Archwilio Cymru. |
|
(15.40-16.40) |
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys,
Cyfarwyddwr y Trysorlys Matthew
Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol Papurau
ategol: FIN(5)-20-20 P5 -
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 FIN(5)-20-20 P6 -
Dyraniadau prif grŵp
gwariant FIN(5)-20-20 P7 -
Nodyn Esboniadol Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cymerodd y
Pwyllgor dystiolaeth ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 gan y
tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew
Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr
Rheolaethau Ariannol. 4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn
am yr eitemau a ganlyn: ·
dadansoddiad mwy
manwl o’r pecyn sefydlogi gwerth £800 miliwn i helpu GIG Cymru i ymateb i
effeithiau parhaus pandemig COVID-19; a ·
nodyn ar elfen
'Brofi' strategaeth 'Profi, Olrhain a Diogelu' Llywodraeth Cymru. Yn benodol,
gofynnir am wybodaeth am unrhyw newidiadau tebygol yn y dyfodol agos i'r
strategaeth 'Brofi' a'r dyraniad cyllid cysylltiedig. |
|
(16.40-17.00) |
Bil Marchnad Fewnol y DU: Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr
y Trysorlys Matthew
Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-Adran Rheolaeth Ariannol Papurau
ategol: FIN(5)-20-20 P8 -
Nodyn Cyngor Cyfreithiol Papur briffio gan
y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cymerodd y
Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Marchnad Fewnol y DU gan y tystion a ganlyn:
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr
y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol. |
|
(17.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac ar gyfer eitemau 1 a 2 yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd Cofnodion: 6. Penderfynodd y
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(17.00-17.10) |
Bil Marchnad Fewnol y DU: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i adrodd ar y Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol. |
|
(17.10-17.20) |
Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(17.20-17.30) |
Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |