Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer:

  • Diwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol, gan gynnwys:
    • ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru,
    • newidiadau o ran cofrestru pleidleiswyr, a
    • chaniatáu i brif gyngor ddewis rhwng y systemau pleidleisio 'cyntaf i’r felin' neu'r ‘bleidlais drosglwyddadwy sengl';
  • Pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymunedol cymwys;
  • Diwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol;
  • Arweinyddiaeth prif gynghorau, gan gynnwys annog mwy o amrywiaeth ymhlith aelodau gweithredol a phennu swydd statudol prif weithredwr;
  • Datblygu fframwaith a phwerau i hwyluso mecanweithiau gweithio rhanbarthol mwy cyson a chydlynol;
  • System newydd ar gyfer perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu cymheiriaid, gan gynnwys cydgrynhoi pwerau cymorth ac ymyrraeth Gweinidogion Cymru;
  • Pwerau i hwyluso uno gwirfoddol gan brif gynghorau ac ailstrwythuro prif ardal;
  • Cyllid llywodraeth leol, gan gynnwys ardrethi annomestig a’r dreth gyngor;
  • Darpariaethau amrywiol yn ymwneud â:
    • rhannu gwybodaeth rhwng rheolyddion,
    • diddymu pleidleisiau cymunedol,
    • awdurdodau tân ac achub,
    • Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a
    • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF, 5MB) cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

 

Mae’r Bil yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar gael yn y Canllaw i Cyfnod Filiau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 18 Tachwedd 2019

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (PDF, 835KB), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 5MB)

 

Datganiad y Llywydd (PDF, 79KB): 18 Tachwedd 2019

 

 Datganiad ysgrifenedig: Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (PDF, 130KB) – 18 Tachwedd 2019

 

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Datganiad o Fwriad Polisi (PDF, 588KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: 26 Tachwedd 2019 (PDF, 56KB)

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad Cyhoeddus - Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Dydd Gwener, 22 Tachwedd 2019 a Dydd Gwener, 3 Ionawr 2020.

 

Mae arolwg byr ar y Bil y gellir ei gwblhau yma. Gellir gweld fideo Spark, yn seiliedig ar yr arolwg, yma.

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Tachwedd 2019

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

 

 

27 Tachwedd 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

 

 

 

11 Rhagfyr 2019

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

 

 

 

 

Bydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, mae’r Llywydd wedi nodi bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r   Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

Ar ôl Cyfnod 4

Nid ydym wedi cyrraedd y Cyfnod hwn eto.

 

Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Catherine Hunt

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1NA

 

Ebost: SeneddCymunedau@Cynulliad.Cymru

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 18/11/2019

Angen Penderfyniad: Meeting Date Yn ôl Y Pwyllgor Busnes, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Dogfennau

Ymgynghoriadau

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu