Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol
Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar y farchnad fewnol
Cyhoeddodd
Llywodraeth y DU ei Phapur
Gwyn ar farchnad fewnol y DU ar 16 Gorffennaf, gan amlinellu’r cynigion i
ymgorffori Ymrwymiad Mynediad i’r Farchnad newydd yn y gyfraith ar ddiwedd y
cyfnod pontio ym mis Rhagfyr 2020.
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ystyried y cynigion a’u goblygiadau
cyfansoddiadol fel rhan o’u gwaith craffu parhaus ar faterion sy’n ymwneud ag
ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Er mwyn osgoi dyblygu, penderfynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
beidio â gwneud unrhyw waith ffurfiol ar y cynigion ond i gadw golwg ar y
cynnydd a wnaed.
Ar 16 Gorffennaf
2020, ysgrifennodd
(PDF,123KB) [Saesneg yn unig] y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, yr
Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a'r Gwir
Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, at Gadeirydd y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau ynghylch lansio Papur Gwyn ac
ymgynghoriad y DU ar y farchnad fewnol.
Ymatebodd
(PDF, 164KB) Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 27
Gorffennaf 2020.
Ymatebodd
(PDF,271KB) Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar
30 Gorffennaf 2020.
Ystyriodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yr ohebiaeth yn ei gyfarfod
ar 3 Awst 2020
ac ymatebodd
(PDF, 221KB) y Cadeirydd ar 7 Awst 2020.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/08/2020
Dogfennau
- Gohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - 3 Hydref 2020 (Saesneg yn unig) PDF 158 KB
- Datganiad gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – 23 Medi 2020 PDF 91 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch cymhwyso Confensiwn Sewel i Fil Marchnad Fewnol y DU – 18 Medi 2020 PDF 196 KB
- Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol – 14 Awst 2020 PDF 633 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiadat y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghylch lansio Papur Gwyn ac ymgynghoriad y DU ar y farchnad fewnol– 7 Awst 2020 (Saesneg yn unig) PDF 221 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghylch lansio Papur Gwyn ac ymgynghoriad y DU ar y farchnad fewnol– 30 Gorffennaf 2020 PDF 271 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghylch lansio Papur Gwyn ac ymgynghoriad y DU ar y farchnad fewnol – 27 Gorffennaf 2020 PDF 164 KB
- Gohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Alok Sharma AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a'r Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch lansio Papur Gwyn ac ymgynghoriad y DU ar y farchnad fewnol – 16 Gorffennaf 2020 [Saesneg yn unig] PDF 123 KB