Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Roedd wedi llofnodi'r ddeiseb i gefnogi'r mater. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn:
Wedi i'r camau hyn gael eu cwblhau, cytunodd y Pwyllgor y bydd yn ystyried
eto a ddylid ceisio amser ar gyfer dadl ynghylch y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn. |
||
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad – dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed
barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y Llywydd yn rhinwedd ei rôl fel
Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd i'r
wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau
pellach. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gysylltu
eto ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am
fanylion yr amserlenni y mae'n eu bwriadu ar gyfer cynnal yr adolygiad o
Fframwaith Anhwylderau Bwyta Llywodraeth Cymru. |
||
P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Autism Spectrum Connections Cymru,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol i ofyn am fanylion y prosesau a
ddilynwyd adeg dyfarnu cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, ac
a roddwyd cyfleoedd i sefydliadau'r trydydd sector wneud cais. |
||
P-05-763 Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gymdeithas Strôc, ynghyd â sylwadau
pellach gan y deisebydd a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a yw'n credu y gallai Llywodraeth Cymru neu'r
Grŵp Gweithredu Strôc gymryd unrhyw gamau ychwanegol i sicrhau bod gweithwyr
iechyd proffesiynol yn ymwybodol o symptomau ychwanegol strôc, fel problemau
gyda golwg a chydbwysedd; ac wrth wneud hynny ·
cau'r ddeiseb, o ystyried y cyngor a gafwyd gan y Gymdeithas
Strôc a barn y Grŵp Gweithredu Strôc mai prin yw'r dystiolaeth i gefnogi
newid y negeseuon cyfredol ynghylch symptomau strôc, a rhoi diolchiadau'r
Pwyllgor i'r deisebydd am gyfrannu at drafodaeth ddefnyddiol ar y mater hwn. |
||
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ac, o ystyried natur fanwl y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd i
roi mwy o amser i'r deisebwyr baratoi sylwadau cyn ystyried unrhyw gamau
pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-716 Cludiant am ddim ar drenau i ddisgyblion ysgol gyda Threnau Arriva Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon
Taf a chytunodd i aros am farn y deisebydd am yr ohebiaeth ddiweddaraf, ynghyd
ag ymateb i wybodaeth y gofynnwyd amdani'n flaenorol gan Trenau Arriva Cymru,
cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-770 Ailagor Gorsaf Drenau Crymlyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth a chytunodd aros am farn y deisebydd am hyn cyn ystyried unrhyw
gamau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Gymdeithas Ceffylau Prydain ac
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau
pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
|
||
P-05-775 Cau'r bwlch gweithredu tacsis yn drawsffiniol ac is-gontractio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros
nes bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'i hymgynghoriad cyhoeddus
diweddar ynghylch diwygiadau posibl i drwyddedu tacsis, a ddisgwylir cyn diwedd
2017, cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-778 Amddiffyn y Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am
gadarnhad na fydd y bysgodfa'n cael ei hailagor nes bod canlyniadau'r asesiad
stoc yn cael eu hystyried. |
||
P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan CLlLC, ynghyd â sylwadau pellach gan y
deisebydd a chytunodd i:
|
||
(09.50) |
Sesiwn dystiolaeth ar gyfer P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Laura Williams, Deisebydd Alun Thomas, Prif Weithredwr - Hafal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd, Laura Williams, ac Alun
Thomas, Prif Weithredwr Hafal. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau y cynnig. |
||
Trafodaeth o sesiynau tystiolaeth blaenorol |
||
P-05-736 Gwneud gwasanaethau iechyd meddwl yn fwy hygyrch Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gynharach a
chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
||
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 7
Tachwedd mewn perthynas â'r ddeiseb hon a P-04-575 Galw i mewn pob cais
cynllunio ar gyfer cloddio glo brig, a chytunodd i lunio adroddiad ar
ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddwy ddeiseb. |
||
P-04-575 Galw i mewn bob cais cynllunio ar gyfer cloddio glo brig Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 7
Tachwedd mewn perthynas â'r ddeiseb hon a P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor
Technegol Mwynau yn Ddeddf, a chytunodd i lunio adroddiad ar ystyriaeth y
Pwyllgor o'r ddwy ddeiseb. |
||
Trafod crynodeb - P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y crynodeb drafft a diwygiadau pellach, a chytunodd
i'w cyhoeddi wedi iddynt gael eu cwblhau. |