P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.
P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Taxi Drivers of Cardiff, ar
ôl casglu 390 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun ei hymgynghoriad ar y
diwygiadau i gyfreithiau trwyddedu tacsis, i gau'r bwlch sy'n ymwneud â
gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith, gan olygu bod cannoedd o
dacsis a cherbydau hurio preifat o'r tu allan i'r dref yn heidio i Gaerdydd i
weithio ar sail hurio preifat.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae digon o gerbydau trwyddedig yng
Nghaerdydd i wasanaethu'r ddinas heb fod angen y ceir hyn o leoedd mor bell i
ffwrdd â Llundain, Glannau Mersi, Canolbarth Lloegr ac ati yn ogystal ag
awdurdodau cyfagos fel Casnewydd, y Fro a Rhondda Cynon Taf ac ati. Cafwyd
cerbydau hyd yn oed nad oeddynt yn gweithio ar unrhyw lwyfan, gan weithredu'n
anghyfreithlon a chuddio y tu ôl i'r ffaith fod cynifer o dacsis 'estron' yn y
ddinas.
Nid oes DIM marciau ar lawer o'r
cerbydau hyn, sy'n dirmygu'r safonau a osodwyd gan Gyngor Sir Caerdydd ar gyfer
cerbydau y mae'n eu trwyddedu, gan gynnwys lifrai amlwg iawn a gwybodaeth fanwl
am y strydoedd lleol. Gwaetha'r modd dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun
agored i niwed neidio i mewn i gar heb drwydded, â chanlyniadau trychinebus.
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i
sicrhau mai'r unig dacsis a cherbydau hurio preifat y caniateir iddynt weithio
yng Nghaerdydd yw'r rhai a drwyddedwyd gan Gyngor Sir Caerdydd. Y rheswm am hyn
yw i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i sicrhau nad yw Caerdydd yn cael ei
gorlenwi â mwy o geir na'r hyn sydd ei angen gan y bydd hynny'n arwain at fwy
fyth o dagfeydd a llygredd yn ein prifddinas os caniateir i'r sefyllfa barhau.
Bydd hefyd yn rhoi cyfle i yrwyr presennol a drwyddedir gan Gyngor Caerdydd
ennill rhywbeth sy'n agosáu at fod yn gyflog byw.
Cyflwyniad deiseb efo’r deisebwyr
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y
Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr
â P-05-835
Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le
yng Nghymru a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod Gweinidog yr
Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd newid
deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae
Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 21/11/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Gwelliant
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/10/2017