Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 259(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog
Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.03 Gofynnwyd cwestiynau 3 i
5. Tynnwyd cwestiynau 1 a 2 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch ymadawiad Prif
Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.15 Gofyn
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad
ynghylch ymadawiad Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.40 Gwnaeth David
Rees ddatganiad - Heddiw yw Diwrnod Canser y Byd a siarad am y bobl
hynny sy’n byw gyda chanser ac y mae canser yn effeithio arnynt. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad - Parkrun –
Dathlu’r ffaith bod rhedwr o Gaerdydd wedi torri record y byd dros y penwythnos. Gwnaeth Jack Sargeant ddatganiad - Nodi Wythnos Prentisiaethau – canmol
prentisiaethau, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a phrentisiaid, gan siarad
fel cyn-brentis. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan NDM7239 David
Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu
gael ei osod ag o leiaf un pwynt gwefru ceir trydan. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai sicrhau bod gan: (a) bob adeilad
preswyl newydd sydd â lle parcio cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod; (b) bob adeilad
preswyl newydd neu sy'n cael ei adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd
parcio, lwybrau ceblau ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50
y cant o gyfanswm y lleoedd parcio. Cefnogwyr Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) David J. Rowlands (Dwyrain De
Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru) Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.45 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7239 David Melding (Canol De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn
ofynnol i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu gael ei osod ag o leiaf un
pwynt gwefru ceir trydan. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau bod
gan: (a) bob adeilad preswyl newydd sydd â lle parcio
cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod; (b) bob adeilad preswyl newydd neu sy'n cael ei
adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio, lwybrau ceblau ar gyfer
pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant o gyfanswm y lleoedd
parcio. Cefnogwyr Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a
De Sir Benfro) Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Mark Isherwood (Gogledd Cymru) Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru) Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Fframweithiau polisi cyffredin: gwaith craffu gan y Cynulliad - Dim cynnig wedi'i Gyflwyno Cofnodion: Dim cynnig wedi'i Gyflwyno |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Llygredd Aer NDM 7264 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod llygredd
aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o
farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru. 2. Yn nodi nad yw
ardaloedd mawr o Gymru yn monitro ansawdd aer. 3. Yn galw am ddeddf
aer glân i Gymru, a fyddai’n cynnwys mesurau i: a) rhoi’r hawl i
gymunedau gael offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai; b) creu seilwaith a
fyddai’n galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle
bo hynny’n briodol; c) diwygio’r broses
gynllunio i’w gwneud yn ofynnol i effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o
bwys yn y system gynllunio; d) cyflymu’r broses o
drawsnewid i system drafnidiaeth drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu
diddymu’n raddol erbyn 2030. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn galw am rwydwaith
cenedlaethol newydd ar gyfer monitro llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu
presennol Cymru i fonitro. Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi ymhellach fod
llygredd aer yn dwysáu cyflyrau presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a
chanser yr ysgyfaint, ac nad yw effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu
deall yn llawn eto. Gwelliant 3 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ym mhwynt 3, dileu 'a
fyddai’n cynnwys mesurau i:' a rhoi yn ei le 'ac i Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU gymryd camau pendant i atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio
deddfwriaeth lle y bo angen, er mwyn:'. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, cynnwys
is-bwyntiau newydd cyn is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny: 'ymgorffori yn y
gyfraith ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd; mandadu Llywodraeth
Cymru i lunio strategaeth statudol ar ansawdd aer bob pum mlynedd; ' Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3(a),
cynnwys ', a chyflwyno "hawl i anadlu"' ar ôl 'ysbytai '. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7264 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod llygredd aer yn argyfwng
iechyd cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau’r
flwyddyn yng Nghymru. 2. Yn nodi nad yw ardaloedd mawr o Gymru yn
monitro ansawdd aer. 3. Yn galw am ddeddf aer glân i Gymru, a fyddai’n
cynnwys mesurau i: a) rhoi’r hawl i gymunedau gael offer monitro
llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai; b) creu seilwaith a fyddai’n galluogi awdurdodau
lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle bo hynny’n briodol; c) diwygio’r broses gynllunio i’w gwneud yn
ofynnol i effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o bwys yn y system
gynllunio; d) cyflymu’r broses o drawsnewid i system drafnidiaeth
drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu diddymu’n raddol erbyn 2030.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw am rwydwaith cenedlaethol newydd ar gyfer
monitro llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu presennol Cymru i fonitro. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo
yn unol â hynny: Yn nodi ymhellach fod llygredd aer yn dwysáu
cyflyrau presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac
nad yw effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu deall yn llawn eto. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr) Ym mhwynt 3, dileu 'a fyddai’n cynnwys mesurau
i:' a rhoi yn ei le 'ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau
pendant i atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio deddfwriaeth lle y bo angen, er
mwyn:'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, cynnwys is-bwyntiau newydd cyn
is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny: 'ymgorffori yn y gyfraith ganllawiau ansawdd aer
Sefydliad Iechyd y Byd; mandadu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth
statudol ar ansawdd aer bob pum mlynedd; ' Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3(a), cynnwys ', a chyflwyno "hawl
i anadlu"' ar ôl 'ysbytai '. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7264 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu bod llygredd aer yn argyfwng iechyd
cyhoeddus, sy’n cyfrannu at amcangyfrif o 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn yng
Nghymru. 2. Yn galw am rwydwaith cenedlaethol newydd ar
gyfer monitro llygredd aer sy’n cyd-fynd â gallu presennol Cymru i fonitro. 3. Yn nodi ymhellach fod llygredd aer yn dwysáu
cyflyrau presennol yr ysgyfaint ac yn achosi asthma a chanser yr ysgyfaint, ac
nad yw effeithiau hirdymor ansawdd aer gwael wedi eu deall yn llawn eto. 4. Yn galw am ddeddf aer glân i Gymru, a rhoi yn
ei le 'ac i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau pendant i
atgyfnerthu pob mesur, gan ddefnyddio deddfwriaeth lle y bo angen, er mwyn: a) rhoi’r hawl i gymunedau gael offer monitro
llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai; b) creu seilwaith a fyddai’n galluogi awdurdodau
lleol i gyflwyno taliadau llygredd a thagfeydd lle bo hynny’n briodol; c) diwygio’r broses gynllunio i’w gwneud yn
ofynnol i effaith datblygiad ar lygredd aer gael mwy o bwys yn y system
gynllunio; d) cyflymu’r broses o drawsnewid i system
drafnidiaeth drydan fel bod ceir petrol a disel yn cael eu diddymu’n raddol
erbyn 2030.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7262 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Pa ddyfodol i ffermydd
cyngor? Mae gan ffermydd
Cyngor ran bwysig i’w chwarae yn nyfodol ein diwydiant amaeth, ond mae’r
gwerthiant cynyddol gan gynghorau dan bwysau ariannol yn peryglu’r dyfodol
hwnnw. Cofnodion: NDM7262 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Pa ddyfodol i ffermydd
cyngor? Mae gan ffermydd Cyngor ran
bwysig i’w chwarae yn nyfodol ein diwydiant amaeth, ond mae’r gwerthiant
cynyddol gan gynghorau dan bwysau ariannol yn peryglu’r dyfodol hwnnw. |