Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 132(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol
Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd
y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar ôl cwestiwn
2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd David
Melding Bwynt o Drefn o dan Reol Sefydlog 6.15 a Rheol Sefydlog 12.50 ynghylch
y Llywodraeth yn cyhoeddi adolygiad o gyflenwad o dai fforddiadwy drwy
ddatganiad ysgrifenedig. Cyfeiriodd at ardystiadau gan sefydliadau polisi tai,
a roddwyd mewn datganiad i’r wasg gan y Llywodraeth, a oedd yn cyfeirio at
bwysigrwydd yr adolygiad, ac roedd yn cwestiynu felly a oedd y cyhoeddiad yn
fwy addas ar ffurf datganiad llafar. Diolchodd y
Llywydd i’r Aelod am ei Bwynt o Drefn, a nododd er bod busnes y Llywodraeth yn
fater i Weinidogion Cymru, maent hwy yn atebol i’r Cynulliad. Nododd ei
disgwyliad na ddylai Gweinidogion Cymru danseilio’r egwyddor honno drwy wneud
cyhoeddiad polisi pwysig y tu allan i’r Siambr, fel bod yr Aelodau’n cael cyfle
i graffu. Manteisiodd y Llywydd ar y cyfle i atgoffa’r Aelodau o gyfleoedd
eraill sydd ar gael iddynt ddod â materion i’r Siambr os bydd y Llywodraeth yn
methu â gwneud hynny, a’u gallu i wneud sylwadau am fusnes arfaethedig y
Llywodraeth drwy’r Pwyllgor Busnes. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau Amserol Ni ddewiswyd unrhyw gwestiynau amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.28 Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad i nodi 150 mlynedd ers Undeb Bedyddwyr Cymru. Gwnaeth
David Melding ddatganiad ar ganmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth Dogfennau
ategol Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Prif Weinidog – 17 Ebrill 2018 (PDF, 140KB) Llythyr
gan Gadeirydd y Pwyllgor at y Llywydd – 17 Ebrill 2018 (PDF, 808KB) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.31 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.46 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Diwygio llywodraeth leol NDM6707
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru – Cryfhau
Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl – yw'r trydydd cynnig mewn tair
blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol. 2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag
y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. 3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi
cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen. 4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran
diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad
ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn,
yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y
cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol. Dogfen
Ymgynghori Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni
dros ein Pobl Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau
Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o
bryd. 2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol
yng Nghymru yn gynaliadwy. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn gresynu'r llymder sydd wedi arwain at doriadau enbyd i
gyllidebau llywodraeth leol ers sawl blwyddyn, a’r ansicrwydd parhaus y mae
cynghorau yn ei wynebu o ran eu sefyllfa ariannol ac ad-drefnu posibl. Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at ddiffyg cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd
Cabinet am bwysigrwydd cynnal perthynas, a chydweithio adeiladol rhwng
Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Gwelliant
4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu
llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio
iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol
i’w defnyddwyr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.11 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio NDM6707 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd
Llywodraeth Cymru – Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl – yw'r
trydydd cynnig mewn tair blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio
llywodraeth leol. 2. Yn nodi hefyd fod yr
awdurdodau lleol yn gweithio tuag y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan
ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau
Cyhoeddus. 3. Yn gresynu fod y cynnig
diweddaraf wedi achosi cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff
rheng flaen. 4. Yn pryderu am y natur o'r
brig i'r bôn gyson o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir
gan y diffyg ymgysylltiad ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr
wrth baratoi'r papur hwn, yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r
costau a’r manteision ar y cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau
Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o
bryd. 2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol
yng Nghymru yn gynaliadwy. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu
dad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2
a 3 eu dad-ddethol. Gwelliant
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r
bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith
Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6707 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi Papur Gwyrdd
Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n
destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. 2. Yn nodi nad yw’r patrwm
presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy. 3.
Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r
bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r
Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren NDM6706
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus
ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei
hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti. 2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal
ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.13 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr
eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6706 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth y DU i
gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei
hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti. 2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal
ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6706 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r ffaith bod ail
Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb
drosti. 2. Yn croesawu bwriad
Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar
gefnffyrdd yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Y grant ar gyfer gwisg ysgol NDM6709
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu’r grant ar gyfer
gwisg ysgol. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant
gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i
anghenion dysgwyr difreintiedig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.39 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio NDM6709 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ailsefydlu’r grant ar gyfer gwisg ysgol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg
ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion
dysgwyr difreintiedig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6709 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bwriad Llywodraeth
Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei
le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y
gloch am 19.11 a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 19.16 ar gyfer y cyfnod
pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6708
David
Rees (Aberafan) Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r cymoedd yn y
dyfodol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.20 NDM6708 David Rees (Aberafan) Gwead
cymdeithasol a lles cymunedau’r cymoedd yn y dyfodol |