NDM6707 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6707 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6707
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru – Cryfhau
Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl – yw'r trydydd cynnig mewn tair
blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.
2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag
y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi
cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen.
4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran
diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad
ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn,
yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y
cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/04/2018
Angen Penderfyniad: 25 Ebr 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd