Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 315(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r
Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.22 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y
Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.19 Gofynnwyd y 3 cwestiwn
cyntaf. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.35 Gwnaeth Helen Mary Jones
ddatganiad am: Mae ‘Mr Hunlun’ yn ôl i godi arian i Elusen Hofrennydd Achub
Bywyd | Ymddiriedolaeth Elusennol Ambiwlans Awyr Cymru. |
|
(60 munud) |
Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud NDM7543 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â mynediad at
gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud: a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch
gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir
cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o
lofnodion; b) Deiseb ‘P-05-1063
Dylid agor cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd
corfforol ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac c) Deiseb ‘P-05-1074
Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm
yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a gasglodd 5,330 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.37 NDM7543 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi’r deisebau
canlynol ynglŷn â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch
corfforol yn ystod cyfyngiadau symud: a) Deiseb ‘P-05-1053 Cadwch
gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir
cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor’ a gasglodd 20,616 o lofnodion; b) Deiseb ‘P-05-1063 Dylid agor
cyrsiau golff gan eu bod yn chwarae rôl hanfodol o ran gwella iechyd corfforol
ac iechyd meddyliol’ a gasglodd 6,317 o lofnodion; ac c) Deiseb ‘P-05-1074 Cynyddwch
nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng
Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ a
gasglodd 5,330 o lofnodion. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(0 munud) |
Dadl Grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio – Gohiriwyd Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni chafwyd cyfnod pleidleisio. |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7532 Mark Reckless (Dwyrain De
Cymru) Datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 NDM7532 Mark
Reckless (Dwyrain De Cymru) Datblygiadau
cyfansoddiadol yng Nghymru. |