Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 30(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.25 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 6 a 7 gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a
Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Brys Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd
yr eitem am 15.15 I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant: Neil McEvoy (Canol De Cymru): Yn sgil y tebygolrwydd
buan y caiff Bashir Naderi ei orfodi i adael y DU ddydd Mawrth nesaf, a wnaiff
y Gweinidog ystyried gwneud sylwadau i rwystro hyn rhag digwydd? Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd
yr eitem am 15.22 I
Ysgrifennydd y Cabinet dros lechyd, Llesiant a Chwaraeon: Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad ynghylch adroddiad yr Ombwdsmon, a ganfu 'methiant systemig' mewn
gofal claf canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan? |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.32 Gwnaeth David Rees
ddatganiad ar yr ansicrwydd parhaus yn y diwydiant dur yng Nghymru. Gwnaeth Huw
Irranca-Davies ddatganiad ar Movember. Gwnaeth Simon
Thomas ddatganiad ar Apêl Baneri Ward 10 Elly. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ymchwiliad y Pwyllgor i ddyfodol polisïau gwledig ac amaethyddol yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.37 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6122 Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 2. Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac
ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r adroddiad 3. Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi: a) bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi
dirywio ledled y DU dros y 50 mlynedd diwethaf b) bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod c) bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod
byw a 40 y cant o adar yn dirywio d) bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion
morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau
infertebrat morol yn dirywio ledled y DU. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i
sicrhau bod gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau
rheoli cynaliadwy. 'Adroddiad Sefyllfa
Byd Natur Cymru 2016' Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.22 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig: NDM6122 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 2.
Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r
adroddiad 3.
Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi: a)
bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ledled y DU dros y 50
mlynedd diwethaf b)
bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod c)
bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod byw a 40 y cant o adar
yn dirywio d)
bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni)
wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio
ledled y DU. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod gwyrdroi'r
dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy.
Derbyniwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6132 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, yn ôl Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig
Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd
arfog yng Nghymru. 2. Yn cydnabod y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd
wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a
pharch. 3. Yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth
weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi'i fwriadu i wneud iawn am yr
anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion
eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned honno. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi creu comisiynydd ar
gyfer cyn-filwyr, i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog, ac yn galw
ymhellach ar Lywodraeth Cymru i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru ar
gyfer cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gyda'r nod cyffredinol o
wella'r canlyniadau i gyn-filwyr yn ogystal ag aelodau o'r lluoedd arfog sy'n
dal i wasanaethu; a b) cyflwyno asesiad o anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail
ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod gan gyn-aelodau o'r lluoedd arfog
yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. 'Arolwg Cartrefi 2014
y Lleng Brydeinig Frenhinol' Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Dileu pwynt 4. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o hybu a
hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a'r cymunedau y maent yn byw ynddynt, gan edrych
ar arfer gorau mewn mannau eraill. Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gwaith sefydliadau fel '65 Degrees North', sy'n
helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r
Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn
ymwybodol o sefydliadau o'r fath. Gwelliant 4. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd
mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys: a) gwaith amhrisiadwy Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd
Arfog; b) datblygu'r llyfryn Croeso i Gymru ar gyfer personél
presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd ynghylch cael eu hadleoli i Gymru; c) gwell cymorth ar gyfer y lluoedd arfog a'u teuluoedd,
gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog a'u
teuluoedd; d) Llwybr Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog sy'n galluogi
pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder, ennill cymwysterau a sicrhau
cyflogaeth; e) y gwaith sy'n parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth iechyd
a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog gan gynnwys y swm o £585,000 a
roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob blwyddyn, nofio am ddim a'r ffaith y
bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6132 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, yn ôl Arolwg
Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau
presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. 2. Yn cydnabod y dylai'r
rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u
teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch. 3. Yn credu y dylai
Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi'i
fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu
hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned
honno. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) nodi bod Llywodraeth
yr Alban wedi creu comisiynydd ar gyfer cyn-filwyr, i hyrwyddo anghenion
cymuned y lluoedd arfog, ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i greu
comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru ar gyfer cyn-filwyr a chymuned ehangach y
lluoedd arfog, gyda'r nod cyffredinol o wella'r canlyniadau i gyn-filwyr yn
ogystal ag aelodau o'r lluoedd arfog sy'n dal i wasanaethu; a b) cyflwyno asesiad o
anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod
gan gyn-aelodau o'r lluoedd arfog yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei
haeddu.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Dileu pwynt 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymchwilio i ffyrdd o hybu a hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a'r
cymunedau y maent yn byw ynddynt, gan edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gwaith
sefydliadau fel '65 Degrees North', sy'n helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod
pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn ymwybodol o sefydliadau o'r fath. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r camau y
mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd
arfog, gan gynnwys: a) gwaith amhrisiadwy
Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd Arfog; b) datblygu'r llyfryn
Croeso i Gymru ar gyfer personél presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd
ynghylch cael eu hadleoli i Gymru; c) gwell cymorth ar
gyfer y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer
cyn bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd; d) Llwybr Cyflogadwyedd
y Lluoedd Arfog sy'n galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder,
ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth; e) y gwaith sy'n parhau
i ddatblygu'r ddarpariaeth iechyd a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog
gan gynnwys y swm o £585,000 a roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob
blwyddyn, nofio am ddim a'r ffaith y bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei
ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6132 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, yn ôl Arolwg
Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau
presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru. 2. Yn cydnabod y dylai'r
rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u
teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch. 3. Yn credu y dylai
Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi'i
fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu
hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned
honno. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymchwilio i ffyrdd o hybu a hyrwyddo anghenion cyn-filwyr, a'r
cymunedau y maent yn byw ynddynt, gan edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill. 5. Yn nodi gwaith
sefydliadau fel '65 Degrees North', sy'n helpu i adsefydlu cyn-filwyr, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod
pobl sydd ar fin gadael y lluoedd arfog yn ymwybodol o sefydliadau o'r fath. 6. Yn croesawu'r camau y
mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn partneriaeth â chymuned y lluoedd
arfog, gan gynnwys: a) gwaith amhrisiadwy
Grŵp Arbenigwyr y Lluoedd Arfog; b) datblygu'r llyfryn
Croeso i Gymru ar gyfer personél presennol y lluoedd arfog a'u teuluoedd
ynghylch cael eu hadleoli i Gymru; c) gwell cymorth ar
gyfer y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gan gynnwys datblygu Llwybr Tai ar gyfer
cyn bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd; d) Llwybr Cyflogadwyedd
y Lluoedd Arfog sy'n galluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau ac ennyn hyder,
ennill cymwysterau a sicrhau cyflogaeth; e) y gwaith sy'n parhau
i ddatblygu'r ddarpariaeth iechyd a lles ar gyfer cyn bersonél y lluoedd arfog
gan gynnwys y swm o £585,000 a roddir ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr bob
blwyddyn, nofio am ddim a'r ffaith y bydd y pensiwn anabledd rhyfel yn cael ei
ddiystyru yn llwyr o fis Ebrill 2017.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6134 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr
Cymraeg erbyn 2050. 2. Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y blynyddoedd diwethaf. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel rhan ganolog o'i strategaeth i
gyrraedd y targed hwn. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn cydnabod bod cynyddu nifer y dysgwyr sy'n cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn ganolog i
bolisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i
wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6134 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi targed
Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 2. Yn gresynu bod canran
y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y
blynyddoedd diwethaf. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel
rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn cydnabod bod cynyddu
nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, a bydd
yn parhau i fod, yn ganolog i bolisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu
a'i defnyddio yn y gweithle. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6134 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi targed
Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 2. Yn cydnabod bod cynyddu
nifer y dysgwyr sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, a bydd
yn parhau i fod, yn ganolog i bolisi addysg a sgiliau Llywodraeth Cymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel
rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu
a'i defnyddio yn y gweithle.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.22 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
GOHIRIWYD TAN 16 TACHWEDD - Dadl Fer NDM6133 Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Colli'r ddarpariaeth ymchwil y galon yn Ysgol Feddygol
Caerdydd |