NDM6132 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6132 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6132  Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, yn ôl Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol, fod 385,000 o gyn-aelodau ac aelodau presennol o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.

2. Yn cydnabod y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch.

3. Yn credu y dylai Cymru fod ar flaen y gad wrth weithredu Cyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi'i fwriadu i wneud iawn am yr anfanteision y gall cymuned y lluoedd arfog eu hwynebu o gymharu â dinasyddion eraill, ac i gydnabod aberthion y gymuned honno.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) nodi bod Llywodraeth yr Alban wedi creu comisiynydd ar gyfer cyn-filwyr, i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog, ac yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i greu comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru ar gyfer cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gyda'r nod cyffredinol o wella'r canlyniadau i gyn-filwyr yn ogystal ag aelodau o'r lluoedd arfog sy'n dal i wasanaethu; a

b) cyflwyno asesiad o anghenion cyn-filwyr a fydd yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau i sicrhau bod gan gyn-aelodau o'r lluoedd arfog yr hawl i gael y gefnogaeth y maent yn ei haeddu.

'Arolwg Cartrefi 2014 y Lleng Brydeinig Frenhinol'

'Cyfamod y Lluoedd Arfog'

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2016

Angen Penderfyniad: 9 Tach 2016 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Paul Davies AS