Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r
Bwrdd i'r cyfarfod. 1.2
Gan groesawu Lleu Williams, Clerc y
Bwrdd, yn ôl, mynegodd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd eu dymuniadau gorau iddo.
1.3
Cyflwynodd y Cadeirydd y swyddogion
a ganlyn i bawb yn y cyfarfod: Craig Griffiths, un o gynghorwyr cyfreithiol
Comisiwn y Cynulliad, a Dean Beard, aelod o’r tîm Cymorth Busnes i’r Aelodau. 1.4
Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd 19 Medi, yn amodol ar fân newid i baragraff 5.2 i’w wneud
yn fwy darllenadwy. 1.5
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn y Cynulliad. 1.6
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am sefydlu'r Pwyllgor ar Ddiwygio'r Cynulliad. 1.7
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am y broses o benodi Douglas Bain yn Gomisiynydd Safonau Dros Dro,
gan gydnabod y penodiad hwnnw. 1.8
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn ar
Gyfiawnder, sef 'Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru'. 1.9
Nododd y Bwrdd y wybodaeth
ddiweddaraf am eiriad y Weithdrefn Gwyno a Disgyblu mewn perthynas ag apeliadau
yn dilyn ymchwiliadau annibynnol, ynghyd â chyngor gan ACAS. Cytunodd y Bwrdd y
byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau Cynrychiolwyr mewn perthynas
â’r newidiadau arfaethedig i eiriad y weithdrefn, gyda'r bwriad o wneud gwaith
ymgynghori pellach fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y
Chweched Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn newydd. 1.10 Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y
gwanwyn. Camau
gweithredu: -
Yr ysgrifenyddiaeth i newid a chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 19 Medi. -
Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda’r Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y
cyfarfod ym mis Ionawr. -
Yr ysgrifenyddiaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyfarfod ychwanegol o’r
Bwrdd ym mis Chwefror 2020. |
|
Eitem i’w thrafod: Adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau Cofnodion: 2.1 Trafododd y
Bwrdd adolygiad chwe mis o hyblygrwydd y lwfansau staff yn dilyn y broses o roi
newidiadau ar waith, gan gynnwys dileu’r cap 111 awr ar gyflogi staff a
gyflogir yn barhaol, cyllidebu costau cyflogau ar sail costau gwirioneddol, a
newidiadau i'r opsiynau i drosglwyddo cyllid sydd ar gael i'r Aelodau. 2.2 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n cynnal adolygiad pellach ym mis Ebrill 2020 er mwyn gwneud
gwaith monitro pellach ar natur effaith y newidiadau. 2.3 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n newid y geiriad ar drosglwyddiadau yn y Penderfyniad er mwyn
sicrhau bod y ddarpariaeth yn fwy clir. |
|
Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad - Crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad: rhan dau Cofnodion: ·
3.1 Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad. ·
3.2 Mewn
perthynas â Chynnig 1, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu'r cynnig ar gyfer
y Chweched Cynulliad a gweddill y Pumed Cynulliad, a hynny er mwyn sicrhau nad
oes unrhyw gyfyngiadau ar allu Aelodau i recriwtio staff ar gontractau tymor
penodol sy'n hwy na chwe mis ac sy’n para hyd at 18 mis, yn amodol ar gynnal
proses recriwtio deg ac agored. ·
3.3 Ymhellach
i’r cam o weithredu Cynnig 1 ar gyfer y Chweched Cynulliad, cytunodd y Bwrdd
hefyd y dylid alinio contractau tymor penodol ar gyfer absenoldeb mamolaeth â
darpariaethau statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth, a hynny am gyfnod o hyd
at 12 mis. ·
3.4 O
ran Cynigion 2 a 6, sy'n ymwneud â chaniatáu i Aelod neu Arweinydd Plaid bennu
cyflog cychwynnol a chodiadau cyflog cynyddrannol aelod staff yn dilyn ei gyfnod
prawf, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu’r trefniant hwn ar gyfer y
Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n argymell bod y Bwrdd
nesaf yn adolygu'r broses hon 12 mis ar ôl ei gweithredu. ·
3.5 Cytunodd
y Bwrdd â'r ymatebion a ddaeth i law a oedd yn galw am broses ymgynghori mewn
perthynas â’r canllawiau sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer cyflog
cychwynnol, a chytunodd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau
Cynrychiolwyr wrth ddatblygu'r canllawiau. ·
3.6 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3, 7 ac 8, a chytunodd hefyd, yn unol
â’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Cynigion, y byddai amgylchiadau lle byddai
aelodau o staff cymorth yn cael eu diswyddo yn rhai annisgwyl, a dylai’r
sefyllfa honno felly fod yn destun codiad o 100 y cant. ·
3.7 Wrth
drafod yr ymatebion, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai staff sy’n cael eu diswyddo
o ganlyniad i afiechyd fod yn destun codiad o 100 y cant, oherwydd y gallai
amgylchiadau o’r fath hefyd fod yn annisgwyl. ·
3.8 Fodd
bynnag, ni chytunodd y Bwrdd i gymhwyso codiad o 100 y cant i aelodau staff a
gafodd eu diswyddo yn sgil penderfyniad blaenorol y Bwrdd ym mis Ebrill 2019
ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu, gad fod yr amgylchiadau hynny yn rhai
disgwyliedig. ·
3.9 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 4 a 9, sy’n ymwneud â thalu cyflog sy'n
cyfateb i isafswm band tri mewn perthynas â lleoliadau addysg uwch sy’n para’n
hwy na phedair wythnos. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu canllawiau
ar gyfer interniaethau. Cred y Bwrdd y byddai'r dull hwn yn cynorthwyo’r broses
o gyflawni amcanion cydraddoldeb, tryloywder a thegwch. ·
3.10 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3 a 10, sy’n
ymwneud â chyflwyno gweithdrefn ar gyfer lleoliadau gwirfoddol mewn swyddfeydd
Aelodau a Grŵp. ·
3.11 Mewn perthynas â Rhan dau o'r ymgynghoriad, yn canolbwyntio ar
gynigion i ddiwygio Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cytunodd y Bwrdd
y byddai’n rhoi'r newidiadau hynny ar waith. Bydd y Tîm Pensiynau yn cyfarwyddo
Eversheds, ar ran y Bwrdd, i wneud y newidiadau angenrheidiol i Reolau'r
Cynllun Pensiwn. · 3.12 Bu'r Bwrdd hefyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitem i’w thrafod: Y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymatebion i’r ymgynghoriad: rhan tri Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad ar ran tri o'r adolygiad o'r
Penderfyniad. 4.2 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 1 i gadw’r trefniadau cyfredol ar gyfer tâl
Aelodau, ac i gadw’r cyswllt rhwng cyflogau Aelodau a mynegai ASHE. 4.3 Cytunodd y
Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynnig 2 i wneud darpariaeth ar gyfer
cydnabyddiaeth ariannol y Darpar Gwnsler Cyffredinol. 4.4 Wrth drafod
y materion uchod yng nghyd-destun sicrhau cysondeb o fewn y Penderfyniad,
cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar gynigion i dalu Darpar Brif Weinidog.
Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar y ddarpariaeth dan sylw fel
rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr. 4.5 Nododd y
Bwrdd y gefnogaeth a fynegwyd yn yr holl ymatebion a gafwyd i Gynnig 3, sef
datblygu pennod newydd yn y Penderfyniad ar ddarparu cymorth i Aelodau sydd ag
anableddau. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n ymgynghori ar destun penodol fel rhan
o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr. 4.6 Cytunodd y
Bwrdd mewn egwyddor i ddatblygu Cynnig 4, gan ystyried darparu cymorth i
Aelodau â chyfrifoldebau gofal plant a gofalu. Cytunodd y byddai’n ymgynghori
ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad llawn ym mis Ionawr. 4.7 Wrth gytuno
ar yr uchod, cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n gweithredu cynnig 5, sef
cyhoeddi costau ar sail ddienw a chyfanredol. 4.8 Cytunodd y
Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu darpariaeth mewn perthynas â Chynnig 6, sef
darparu cymorth i Aelodau sy'n cymryd cyfnod o absenoldeb mamolaeth, absenoldeb
mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir. Felly, cytunodd y Bwrdd y byddai’n
ymgynghori ar y darpariaethau manwl fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad
llawn ym mis Ionawr. 4.9 Wrth drafod
ymateb ynghylch darparu cymorth i Aelodau dros 65 oed, penderfynodd y Bwrdd y
byddai'r newidiadau a'r ychwanegiadau a wneir i'r Penderfyniad o ganlyniad i'r
rhan hon o'r adolygiad yn ymdrin ag anghenion Aelodau sy’n 65 oed neu’n
hŷn. Cam gweithredu: - Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r
llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl. |
|
Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: trafodaeth gychwynnol ynghylch yr ymgynghoriad llawn ar y Penderfyniad Cofnodion: 5.1 Cynhaliodd y Bwrdd ei drafodaeth
gychwynnol ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad yn ei gyfanrwydd,
ynghyd â thrafodaeth ar y materion dros ben i’w hystyried fel rhan o'r broses
ymgynghori derfynol ym mis Ionawr. 5.2 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n trafod y Penderfyniad fesul llinell, fel y'i diwygiwyd, cyn
cyhoeddi’r ymgynghoriad ddiwedd mis Ionawr. |
|
Eitem i’w thrafod: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2020-21 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Bwrdd nifer o
faterion yn ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef
2020-21. 6.2 Trafododd y Bwrdd gyfradd y lwfans
costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol
nesaf (2020-201). Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys faint y mae
Aelodau unigol yn ei wario ar gostau swyddfa, yn ogystal â mesurau chwyddiant. 6.3 Yn dilyn dadansoddiad o'r wybodaeth a oedd
ar gael, cytunodd y Bwrdd fod gwariant Aelodau ar y lwfans yn dangos bod y
lwfans cyfredol yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Yn sgil hynny, penderfynodd
y Bwrdd gynnal y lwfansau o £18,260 a £4,912 ar gyfer y flwyddyn ariannol
nesaf. 6.4 Trafododd y Bwrdd y lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar
gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, gan ymdrin â nifer o ffactorau
cysylltiedig, gan gynnwys faint y mae Aelodau’n ei wario ar lety, costau'r
farchnad rentu leol yng Nghaerdydd, a mesurau chwyddiant. 6.5 Cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu lwfans yr
ardal allanol yn unol â chyfradd y CPI o fis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Byddai
gwneud hyn yn cynyddu’r lwfans o £795 y mis i £810 y mis. Byddai hyn yn rhoi
cyfanswm o £9,710 y flwyddyn. 6.6 Hefyd, trafododd y Bwrdd a ddylid newid y
Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr. Penderfynodd y Bwrdd fod y
Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn
ariannol nesaf. 6.7 Mae cyflogau’r Aelodau (a deiliaid swyddi
ychwanegol), yn ogystal â chyflogau eu staff cymorth, yn cael eu haddasu'n
awtomatig bob mis Ebrill yn unol â’r newid yn enillion canolrif gros yr Arolwg
Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng
Nghymru. Nododd y Bwrdd mai'r newid eleni yw 4.4 y cant. Felly, dyma’r swm a
ddefnyddir i addasu cyflogau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd
manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer
2020-21. 6.8 Yn flaenorol, addaswyd y Lwfans Cymorth i
Bleidiau Gwleidyddol bob blwyddyn yn ôl yr un mynegai ag a ddefnyddir ar gyfer
cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y lwfans i
dalu cyflogau staff cymorth grŵp yn unig; fe'i defnyddir hefyd i dalu
costau staffio eraill, fel teithio, yn ogystal ag offer swyddfa a deunyddiau.
Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o gyfanswm cost gyffredinol y lwfans hwn, sy’n parhau
i gynyddu. Yn sgil hynny, cytunodd y byddai’n defnyddio dull arall i addasu
cyfanswm y lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. 6.9 Gwnaeth y Bwrdd gynnig bod cyfanswm yr hyn sy’n cael ei wario ar gyflogau (sef tua 80.2 y cant o gyfanswm y lwfans yn 2018-19) yn cynyddu 4.4 y cant, sef cyfradd mynegai ASHE, a bod gweddill y lwfans yn cael ei addasu yn ôl cyfradd y CPI ar gyfer mis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Mae'r Bwrdd o'r farn bod y newid hwn yn un teg a fydd yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |