Agenda item
Eitem i’w thrafod: Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad - Crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad: rhan dau
- Cyfarfod Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (WRB (25)), Dydd Iau, 21 Tachwedd 2019 09.15 (Item 3.)
- Gwybodaeth gefndir i eitem 3.
Cofnodion:
·
3.1 Trafododd
y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'w ymgynghoriad.
·
3.2 Mewn
perthynas â Chynnig 1, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu'r cynnig ar gyfer
y Chweched Cynulliad a gweddill y Pumed Cynulliad, a hynny er mwyn sicrhau nad
oes unrhyw gyfyngiadau ar allu Aelodau i recriwtio staff ar gontractau tymor
penodol sy'n hwy na chwe mis ac sy’n para hyd at 18 mis, yn amodol ar gynnal
proses recriwtio deg ac agored.
·
3.3 Ymhellach
i’r cam o weithredu Cynnig 1 ar gyfer y Chweched Cynulliad, cytunodd y Bwrdd
hefyd y dylid alinio contractau tymor penodol ar gyfer absenoldeb mamolaeth â
darpariaethau statudol ar gyfer absenoldeb mamolaeth, a hynny am gyfnod o hyd
at 12 mis.
·
3.4 O
ran Cynigion 2 a 6, sy'n ymwneud â chaniatáu i Aelod neu Arweinydd Plaid bennu
cyflog cychwynnol a chodiadau cyflog cynyddrannol aelod staff yn dilyn ei gyfnod
prawf, cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu’r trefniant hwn ar gyfer y
Chweched Cynulliad. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n argymell bod y Bwrdd
nesaf yn adolygu'r broses hon 12 mis ar ôl ei gweithredu.
·
3.5 Cytunodd
y Bwrdd â'r ymatebion a ddaeth i law a oedd yn galw am broses ymgynghori mewn
perthynas â’r canllawiau sy'n ymwneud â'r meini prawf ar gyfer cyflog
cychwynnol, a chytunodd y byddai’r ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â’r Grwpiau
Cynrychiolwyr wrth ddatblygu'r canllawiau.
·
3.6 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3, 7 ac 8, a chytunodd hefyd, yn unol
â’r hyn sydd wedi’i nodi yn y Cynigion, y byddai amgylchiadau lle byddai
aelodau o staff cymorth yn cael eu diswyddo yn rhai annisgwyl, a dylai’r
sefyllfa honno felly fod yn destun codiad o 100 y cant.
·
3.7 Wrth
drafod yr ymatebion, cytunodd y Bwrdd hefyd y dylai staff sy’n cael eu diswyddo
o ganlyniad i afiechyd fod yn destun codiad o 100 y cant, oherwydd y gallai
amgylchiadau o’r fath hefyd fod yn annisgwyl.
·
3.8 Fodd
bynnag, ni chytunodd y Bwrdd i gymhwyso codiad o 100 y cant i aelodau staff a
gafodd eu diswyddo yn sgil penderfyniad blaenorol y Bwrdd ym mis Ebrill 2019
ynghylch cyflogi aelodau o'r teulu, gad fod yr amgylchiadau hynny yn rhai
disgwyliedig.
·
3.9 Cytunodd
y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 4 a 9, sy’n ymwneud â thalu cyflog sy'n
cyfateb i isafswm band tri mewn perthynas â lleoliadau addysg uwch sy’n para’n
hwy na phedair wythnos. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai’n datblygu canllawiau
ar gyfer interniaethau. Cred y Bwrdd y byddai'r dull hwn yn cynorthwyo’r broses
o gyflawni amcanion cydraddoldeb, tryloywder a thegwch.
·
3.10 Cytunodd y Bwrdd y byddai’n gweithredu Cynigion 3 a 10, sy’n
ymwneud â chyflwyno gweithdrefn ar gyfer lleoliadau gwirfoddol mewn swyddfeydd
Aelodau a Grŵp.
·
3.11 Mewn perthynas â Rhan dau o'r ymgynghoriad, yn canolbwyntio ar
gynigion i ddiwygio Rheolau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad, cytunodd y Bwrdd
y byddai’n rhoi'r newidiadau hynny ar waith. Bydd y Tîm Pensiynau yn cyfarwyddo
Eversheds, ar ran y Bwrdd, i wneud y newidiadau angenrheidiol i Reolau'r
Cynllun Pensiwn.
·
3.12 Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod materion eraill a godwyd yn yr
ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y rhan hon o'r adolygiad.
·
3.13 Trafododd y Bwrdd faterion a godwyd mewn nifer o ymatebion yn
ymwneud â lefelau cyflog staff cymorth. Mae’r Bwrdd o'r farn o hyd nad oes
tystiolaeth ychwanegol i'r Bwrdd ei thrafod ar hyn o bryd, yn dilyn Adolygiad
diweddar y Bwrdd o Gymorth Staffio, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019. Nododd
y Bwrdd y ffigur ASHE diweddaraf, sef 4.4 y cant, a fyddai'n arwain at gynnydd
mewn lefelau cyflog staff cymorth ar gyfer 2020-21.
·
3.14 Yn ogystal, nododd y Bwrdd fater a godwyd mewn nifer o ymatebion,
sef y cynllun pensiwn ar gyfer staff cymorth, a chytunodd y byddai’n trafod
papur mewn cyfarfod yn y dyfodol er mwyn deall manylion y cynllun yn well.
·
3.15 Nododd y Bwrdd hefyd fater a godwyd mewn un ymateb, sef mater yn
ymwneud ag absenoldeb arbennig ar gyfer milwyr wrth gefn. Cytunodd y Bwrdd y
byddai’n trafod y posibilrwydd o gyflwyno polisi absenoldeb arbennig ar gyfer
milwyr wrth gefn a rolau eraill y gall staff ymgymryd â hwy er mwyn cyfrannu at
gymdeithas ddinesig. Bydd yn ymgynghori ar gynigion fel rhan o'r ymgynghoriad
ar y Penderfyniad llawn ar gyfer y Chweched Cynulliad ym mis Ionawr.
3.16 Nododd y Bwrdd y materion a godwyd mewn un
ymateb parthed contractau Staff Grŵp. Roedd y Bwrdd o'r farn o hyd y
byddai angen trafod y mater hwn yn y Chweched Cynulliad yng nghyd-destun
diwygio pellach mewn perthynas â’r Cynulliad.
·
Cam gweithredu:
-
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi’r
llythyr yn datgan penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.