Agenda item

Eitem i’w thrafod: Adolygiad blynyddol o Benderfyniad 2020-21

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Bwrdd nifer o faterion yn ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2020-21.

6.2     Trafododd y Bwrdd gyfradd y lwfans costau swyddfa ac a yw’n parhau i fod yn briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2020-201). Trafododd y Bwrdd nifer o ffactorau, gan gynnwys faint y mae Aelodau unigol yn ei wario ar gostau swyddfa, yn ogystal â mesurau chwyddiant.

6.3     Yn dilyn dadansoddiad o'r wybodaeth a oedd ar gael, cytunodd y Bwrdd fod gwariant Aelodau ar y lwfans yn dangos bod y lwfans cyfredol yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion. Yn sgil hynny, penderfynodd y Bwrdd gynnal y lwfansau o £18,260 a £4,912 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.4     Trafododd y Bwrdd y lwfans Gwariant ar Lety Preswyl ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, gan ymdrin â nifer o ffactorau cysylltiedig, gan gynnwys faint y mae Aelodau’n ei wario ar lety, costau'r farchnad rentu leol yng Nghaerdydd, a mesurau chwyddiant. 

6.5     Cytunodd y Bwrdd y dylid cynyddu lwfans yr ardal allanol yn unol â chyfradd y CPI o fis Medi 2019, sef 1.7 y cant. Byddai gwneud hyn yn cynyddu’r lwfans o £795 y mis i £810 y mis. Byddai hyn yn rhoi cyfanswm o £9,710 y flwyddyn.

6.6     Hefyd, trafododd y Bwrdd a ddylid newid y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr. Penderfynodd y Bwrdd fod y Lwfans Atgyweirio Hanfodol a’r Lwfans Gofalwr yn ddigonol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

6.7     Mae cyflogau’r Aelodau (a deiliaid swyddi ychwanegol), yn ogystal â chyflogau eu staff cymorth, yn cael eu haddasu'n awtomatig bob mis Ebrill yn unol â’r newid yn enillion canolrif gros yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) ar gyfer swyddi cyflogeion amser llawn yng Nghymru. Nododd y Bwrdd mai'r newid eleni yw 4.4 y cant. Felly, dyma’r swm a ddefnyddir i addasu cyflogau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd manylion am y cyflogau newydd yn cael eu cyhoeddi yn y Penderfyniad ar gyfer 2020-21.

6.8     Yn flaenorol, addaswyd y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol bob blwyddyn yn ôl yr un mynegai ag a ddefnyddir ar gyfer cyflogau’r Aelodau a’u staff cymorth. Fodd bynnag, ni ddefnyddir y lwfans i dalu cyflogau staff cymorth grŵp yn unig; fe'i defnyddir hefyd i dalu costau staffio eraill, fel teithio, yn ogystal ag offer swyddfa a deunyddiau. Mae’r Bwrdd yn ymwybodol o gyfanswm cost gyffredinol y lwfans hwn, sy’n parhau i gynyddu. Yn sgil hynny, cytunodd y byddai’n defnyddio dull arall i addasu cyfanswm y lwfans ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

6.9     Gwnaeth y Bwrdd gynnig bod cyfanswm yr hyn sy’n cael ei wario ar gyflogau (sef tua 80.2 y cant o gyfanswm y lwfans yn 2018-19) yn cynyddu 4.4 y cant, sef cyfradd mynegai ASHE, a bod gweddill y lwfans yn cael ei addasu yn ôl cyfradd y CPI ar gyfer mis Medi 2019, sef 1.7 y cant.  Mae'r Bwrdd o'r farn bod y newid hwn yn un teg a fydd yn caniatáu i staff cymorth gael yr un codiad cyflog â'u cydweithwyr, yn ogystal â sicrhau bod costau eraill yn cyfateb i gyfradd chwyddiant. Mae'r Bwrdd o’r farn bod y cynnig hwn yn nes at y ffordd y mae Pleidiau Gwleidyddol ac Aelodau Annibynnol yn defnyddio’r lwfans mewn gwirionedd, ac y bydd y codiadau yn y lwfansau, fel y'u dosbarthwyd, yn rhoi gwell gwerth am arian.

6.10   Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â newid enw’r Cynulliad a'r effaith ar gyllidebau a gwariant Aelodau. Nododd y Bwrdd Femorandwm Esboniadol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n rhagdybio y byddai'r Bwrdd Taliadau yn cynghori'r Aelodau i beidio â gwneud hawliadau sy'n gysylltiedig â newid enw’r sefydliad ar faneri cyn etholiad 2021.

6.11   Trafododd y Bwrdd y rhagdybiaeth hon a chytunwyd ei bod yn rhesymol i’r Aelodau beidio â cheisio hawlio unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â newid enw'r sefydliad yn ôl cyn etholiad nesaf y Cynulliad, a gynhelir ym mis Mai 2021. Mae hyn yn cynnwys costau ar gyfer eitemau fel arwyddion, baneri, parthau gwe a gwefannau.

6.12   Yn dilyn etholiad 2021, bydd gan Aelodau newydd lwfans o hyd at £5,000 i sefydlu swyddfa, ac ni fydd angen cyllid penodol arnynt i gynnwys yr enw newydd. Bydd y Bwrdd Taliadau nesaf yn penderfynu ar sut y caiff Aelodau sy'n dychwelyd eu had-dalu am unrhyw gostau perthnasol ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei gweithredu.

6.13   Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar y cynigion drwy'r llythyr diweddaru ar gyfer y cyfarfod ym mis Tachwedd, gyda'r bwriad o drafod ymatebion ym mis Chwefror 2020.

 

Cam gweithredu:

-     Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r llythyr diweddaru yn dilyn y cyfarfod ym mis Tachwedd, gan gynnwys y cynigion ar gyfer yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad, cyn gynted â phosibl.