Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, 02920 89 8669
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd Angela Burns AC, David
Melding AC a Helena Feltham wedi anfon eu hymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar
gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi. |
|
Dewisiadau TGCh yn y dyfodol yn y Siambr papur 2 Cofnodion: Ar ôl ymgynghori ag Aelodau yn
gynharach yn ystod y flwyddyn, trafododd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am
y gwaith a wnaed i werthuso’r opsiynau ar gyfer darpariaeth TGCh yn y Siambr yn
y dyfodol. Cynhaliwyd dadansoddiad manwl
o sut y gellid cyflwyno opsiynau dros doriad yr haf. Roedd y dadansoddiad hwn
yn cynnwys asesiad o rwyddineb defnydd, ymarferoldeb, hyblygrwydd, cynllun
bwrdd gwaith, ail-leoli botymau pleidleisio, arddangos gwybodaeth a sut y
gellid integreiddio datrysiad cwbl symudol yn system y Siambr. Gwnaeth y
dadansoddiad hefyd ddiystyru unrhyw newid a fyddai’n diraddio’r gwasanaeth
presennol neu ffyrdd o weithio yn y Siambr, a rhoi ystyriaeth i anghenion o ran
hygyrchedd, estheteg y Siambr, y Cyfarfod Llawn yn gweithredu’n ddidrafferth
a’r gost a’r amser i weithredu’r newid. Trafododd y Comisiynwyr y
cynnig i gyfuno TGCh sefydlog a symudol a datrysiad meddalwedd newydd ar gyfer
Busnes y Cyfarfod Llawn. Mae’r datrysiad arfaethedig yn sicrhau y gallai
Aelodau gael mynediad i holl systemau a busnes y Cyfarfod Llawn. Yn ogystal,
gall yr Aelodau hynny sy’n dymuno defnyddio dyfais symudol wneud hynny ar gyfer
swyddogaethau busnes craidd (ac eithrio pleidleisio ac anfon negeseuon) wrth
i’r datrysiad meddalwedd newydd gael ei ddatblygu drwy 2015, a bydd yn cael ei
gefnogi’n llawn, drwy eu iPad neu Microsoft Surface. Byddai’n cyflwyno: ·
cynllun bwrdd gwaith newydd, gan roi mwy o le i’w
ddefnyddio a gwell ergonomeg; ·
panel pleidleisio/cyfieithu/sain newydd, a fydd yn
cael ei adleoli gyda botymau pleidleisio sy’n haws eu cyrraedd; ·
pleidleisio a fydd yn arddangos ar sgrin yr Aelod
er mwyn i bob Aelod weld ei bleidlais ei hun; ·
sgrin proffil isel newydd, sy’n cysylltu â’r
cyfrifiadur presennol a llygoden a bysellfwrdd di-wifr newydd, er mwyn cael
gwared ar ormod o geblau. Bydd drôr newydd yn cael ei osod o dan y ddesg, lle
gellir storio bysellfwrdd a llygoden yn hawdd pan nad oes eu hangen, gan greu
mwy o le ar y ddesg ar gyfer papurau neu ddyfais symudol; a ·
man gwefru dyfais symudol. Nododd y Comisiynwyr pa mor
bwysig yw sicrhau bod asesiadau ergonomig ar gael, yn enwedig pan all Aelodau
fod yn gweithio am gyfnodau estynedig yn y Siambr. Bydd braslun o’r cynllun
newydd ar gael yn fuan i'r Aelodau ei weld. Cymeradwyodd y Comisiynwyr y datrysiad arfaethedig ar gyfer darparu
TGCh yn y dyfodol yn y Siambr yn amodol ar gostau, a fydd yn cael ei baratoi’n
awr. |
|
Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol papur 3 Cofnodion: Trafododd y Comisiwn y papur
sy’n rhoi manylion am strategaeth y Cyfryngau Cymdeithasol, y polisi newydd
sy’n rheoli’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol a’r casgliadau’n dilyn y
cyfnod o dreialu trydar yn fyw, a gynhaliwyd cyn toriad yr haf. Bwriad y polisi hwn yw sicrhau
bod y mecanweithiau priodol ar waith i reoli a monitro y defnydd effeithiol o
gyfryngau cymdeithasol ac i gefnogi, cynghori a hysbysu staff ar ei ddefnydd.
Mae’n diffinio’r cyd-destun lle dylid defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yn
trafod y mathau o gynnwys sy’n briodol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, yn
amlinellu rôl y Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol wrth gynorthwyo defnyddwyr a
darparu cyngor llywodraethu ac yn mynd i’r afael â phob sianel a ddefnyddir,
gan gynnwys Facebook a Twitter. Roedd Comisiynwyr yn pryderu y
dylai aelodau unigol o staff sy’n trydar ar ran y Cynulliad gael hyfforddiant a
gwybodaeth briodol a bod yr holl drydar yn llawn gwybodaeth ac yn amhleidiol.
Cawsant sicrwydd bod rheolaethau priodol ar waith a bod hyfforddiant a rhannu
arfer gorau yn digwydd. Trafododd y Comisiynwyr
effaith y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o sbectrwm o weithgareddau
ymgysylltu, nid rhywbeth a wneir ar wahân.
Gwnaethant nodi fod trydariadau’r Cynulliad yn fwy gwerthfawr pan
fyddant yn cysylltu â Senedd.tv a gwefannau defnyddiol eraill. Bwriad polisi’r cyfryngau
cymdeithasol yw darparu fframwaith y gall pobl ei ddefnyddio fel man cychwyn.
Gofynnodd y Comisiynwyr i’r polisi gael ei wneud mor glir â phosibl a chytunwyd
y dylid ei gwblhau ac yna ei gyhoeddi. |
|
Canlyniadau Arolwg Bodlonrwydd Aelodau'r Cynulliad papur 4 Cofnodion: Adolygodd y Comisiwn
ganlyniadau Arolwg Staff Aelodau’r Cynulliad a’u Staff Cymorth 2014. Yn dilyn
adborth gan Aelodau ar arolwg 2013, roedd arolwg 2014 yn cynnwys llai o
gwestiynau, dim ond 12, ac roedd yn caniatáu i ymatebwyr roi mwy o adborth
drwy’r adrannau sylwadau opsiynol. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid rhannu canlyniadau’r
arolwg ag Aelodau a staff yn fuan. |
|
Diogelwch yr Ystâd papur 5 Cofnodion: Trafododd y Comisiwn faterion
yn ymwneud â diogelwch yr ystâd. |
|
Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol (Ebrill - Mehefin) papur 6 Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Comisiwn yr
adroddiad perfformiad corfforaethol ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis
Mehefin 2014. Roedd y dangosyddion sy’n cael eu hadrodd wedi cael eu hadolygu
dros yr haf, gan arwain at rai newidiadau: ·
targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer dosbarthu papurau
pwyllgor a chyhoeddi Cofnod y Trafodion pwyllgorau; ·
mesur newydd ar gyfer cyhoeddi Rhestrau o
Welliannau wedi’u Didoli ar gyfer Biliau Cyfnod 3 (i ychwanegu at y graff
amserlen ddeddfwriaethol yr ydym wedi symud at yr Atodiad gyda’r graffiau
eraill); ·
manylion am gyfranogwyr rheolaidd mewn gweithgarwch
DPP i adlewyrchu presenoldeb Aelodau a’u staff cymorth yn well; ·
mwy o fanylion am ryngweithiadau cyfryngau
cymdeithasol, fel cyfanswm y ffigurau ymgysylltu ar gyfer Facebook, Twitter a
Senedd.tv yn ogystal ag ychwanegu sawl munud o YouTube a wyliwyd; a ·
mesurau newydd ar gyfer cyflwyno TGCh a boddhad. Roedd y Comisiynwyr yn teimlo bod yr adroddiad diweddaraf ar
ddangosyddion perfformiad allweddol yn glir ac yn hawdd ei ddeall. Gwnaethant
ofyn a ellid adolygu'r ddogfen, cyn ei chyhoeddi, er mwyn cynyddu maint y ffont
a ddefnyddiwyd mewn rhai rhannau i’w gwneud yn fwy hygyrch. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 3
Tachwedd. Bydd eitemau ar yr agenda yn
cynnwys cytuno ar gyllideb derfynol y Comisiwn, gan ystyried adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb. Bydd Comisiynwyr hefyd yn cynnal trafodaethau
gyda’r Bwrdd Taliadau. Dywedodd y Llywydd wrth y
Comisiynwyr fod Dadl Fer wedi’i chyflwyno a oedd yn fater i’r Comisiwn, ac y
byddai’n ymateb i’r ddadl ddydd Mercher 1 Hydref. Yr Ysgrifenyddiaeth Medi 2014 |