Comisiwn y Senedd

Comisiwn y Senedd yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Senedd Cymru.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Cyflogir staff y Comisiwn gan y Comisiwn ac mae Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn bennaeth arnynt.

Comisiwn y Senedd yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Senedd Cymru.

Roedd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi i Senedd Cymru bwerau arwyddocaol  i ddeddfu, ac roedd yn cryfhau ei rôl graffu. Hefyd roedd yn creu Llywodraeth Cymru sydd ar wahân yn gyfreithiol a chorff corfforaethol, sef Comisiwn y Senedd sy’n gyfrifol am ddarparu’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau sy’n ofynnol i’r Senedd weithredu.

Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol. Cyflogir staff y Comisiwn gan y Comisiwn ac mae Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd yn bennaeth arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Senedd, edrych ar:

Y Comisiynwyr a'u rôl

Aelodau'r Pwyllgor