Manylion y lleoliad

Ystafell Gynhadledd 4B, Tŷ Hywel

Cyfarwyddiadau: Gall y cyhoedd fynd i mewn i Dŷ Hywel drwy’r fynedfa ar gornel Pierhead Street a Bute Place. Mae grisiau a rampiau yn arwain at y fynedfa. Ar ôl mynd i mewn i Dŷ Hywel, dylai ymwelwyr fynd at y dderbynfa. Bydd staff diogelwch a thywys ar gael i helpu yn ôl y gofyn. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio yn yr adeilad.

I gyrraedd yr ystafell: Mae’r ystafell hon ar loriau uchaf Tŷ Hywel a gellir ei chyrraedd drwy ddefnyddio’r grisiau neu’r lifft. Ewch at y dderbynfa ar y chwith, a thrwy’r camau gwirio gyda’r swyddogion diogelwch. Eisteddwch yn y man aros, a bydd rhywun yn dod i’ch tywys i’r ystafell gyfarfod.

Mapiau Lleoliad:  Sut i gyrraedd i Tŷ Hywel , Mynd i gyfarfod Pwyllgor

Cyfeiriad: 
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Prif Ffôn: 0300 200 6565