Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion o’r cyfarfod blaenorol Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 22 Ionawr. |
|
Ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad am y
trafodaethau parhaus ynghylch diwallu anghenion y Cynulliad a’r Comisiwn o ran
adeiladau yn y dyfodol. |
|
Costau cysylltiedig â Swyddfa’r Aelodau a gyllidir yn ganolog gan Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y costau, heblaw’r
rhai a ddarperir gan y Penderfyniad, y mae’r Aelodau yn mynd iddynt wrth redeg
eu swyddfeydd. Cytunwyd ar gynigion i adolygu’r ffordd y
caiff cyllidebau cysylltiedig â swyddfa eu rheoli dros y tymor byr a’r tymor
hir gyda’r bwriad o sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd y gwariant
ychwanegol hwn yn ymwneud â Swyddfeydd Aelodau. Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar ymgynghori â’r
Aelodau ynghylch cyflwyno camau interim tuag at y dull gweithredu hwn. |
|
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar Lobïo - ymateb Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr argymhellion y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â’i ymchwiliad i’r trefniadau ar
gyfer tryloywder ynghylch lobïo. Cytunodd y Comisiynwyr ar ymatebion i’r
pedwar argymhelliad, er mwyn ymateb i’r Pwyllgor Safonau. |
|
Gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyfrifon 2016-17 - ymateb Cofnodion: Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am
waith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyfrifon 2016-17, yn enwedig y
ddau argymhelliad yn ei adroddiad terfynol yn ymwneud â’r Comisiwn. Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. |
|
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn 2018-19 - ymateb Cofnodion: Wedi rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyllid
eisoes, trafododd y Comisiynwyr weddill yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor
yn ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2018-19, yn ymwneud ag
adeiladau a’r Adolygiad Capasiti. Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i
adroddiad y Pwyllgor Cyllid. |
|
Dirprwyo o ran cyfrifoldebau gweithredol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr i ddirprwyo’r
cyfrifoldeb gweithredol a nodwyd i’r Prif Weithredwr. |
|
Prisiad actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad Cofnodion: Gofynnwyd i’r Comisiynwyr roi eu barn
ynghylch a ddylid mabwysiadu rhagamcanion poblogaeth diweddaraf Swyddfa
Ystadegau Gwladol ar gyfer 2016 i’w defnyddio ym mhrisiad y Cynllun Pensiwn
Aelodau. Cytunwyd y dylid. |
|
Adroddiad ar ddyfarnu contractau - rheoli cyfleusterau Cofnodion: Ymgynghorodd y Prif Weithredwr a’r Clerc â’r
Comisiynwyr, yn unol â’r Dirprwyo, ar ddyfarnu’r contract ar gyfer Rheoli
Cyfleusterau. Gwerth elfen gwasanaethau’r contract yw
ychydig o dan £2.5 miliwn am bedair blynedd y contract. Fodd bynnag, mae’r
contract hwn hefyd yn gyfrwng ar gyfer gweithgarwch cynnal a chadw a
phrosiectau gwella ar yr ystâd. Felly, gallai cyfanswm gwerth y contract godi
uwchlaw’r trothwy sy’n golygu bod angen cynnal yr ymgynghoriad hwn. Nododd y Comisiynwyr ganlyniad y broses ar gyfer
gwerthuso tendro a chymeradwyodd ddyfarnu’r contract. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg y Cynulliad (ACARAC) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod
ACARAC a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2018.
|
|
Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad mis
Chwefror gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau. |
|
Unrhyw fater arall Wedi'i nodi ar
hyn o bryd: ·
Adolygiad Capasiti - cynlluniau o ran cyfathrebu, a rhagair ·
Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn [nodi cychwynnol] ·
Strategaeth y Comisiwn 2020/21 – diwrnod cwrdd i
ffwrdd [y posibilrwydd o gynnal diwrnod o’r fath] Cofnodion: Adolygiad Capasiti - Cytunodd y Comisiynwyr
ar ragair eu hadroddiad. Cynnig ynghylch Dippy - Cytunodd y Comisiwn i
ffurfioli’r cynnig i drosglwyddo arddangosfa Dippy i safle Parc Cathays yr Amgueddfa
Genedlaethol, yn dilyn trafodaethau ag Amgueddfa Bud Natur a chyfarwyddwr
cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ystyriwyd y materion canlynol, a’u cytuno,
drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn: •
Adroddiad terfynol yr
adolygiad capasiti •
Cytundeb dangosol
ynghylch cyfeiriad y polisi Urddas a Pharch |