Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiad o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr.

2.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd a'r gofynion o ran cyflwyno adroddiad blynyddol

Cofnodion:

Cyflwynodd Adam Price, sef deiliad y portffolio, gynigion ar gyfer Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad. 

Rhoddodd y Comisiynwyr sylw arbennig i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r ffyrdd y mae barn y rhai yr ymgynghorwyd â hwy wedi cynorthwyo i lunio'r Cynllun drafft. 

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gefnogol ar y cyfan ac ystyriodd y Comisiynwyr rai o'r meysydd lle y gwnaed awgrymiadau a'r addasiadau a wnaed i'r drafft o ganlyniad. Trafodwyd hefyd sut y byddai staff yn cael eu cefnogi a'r berthynas rhwng cyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau yn y ddwy iaith swyddogol, a chyfrifoldebau eraill, er enghraifft cydraddoldebau.

Nododd y Comisiynwyr y camau cadarnhaol a gymerwyd ers cyflwyno'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, ac roeddent yn cytuno bod y fersiwn a ystyriwyd gan y Comisiwn yn gam i fyny o ran darpariaeth gwasanaeth a dull gweithredu cytbwys er mwyn ein symud tuag at gyflawni ein huchelgais. 

Derbyniodd y Comisiynwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, cynigion ar gyfer rhagor o waith craffu ar y Cynllun cyn ei gymeradwyo yn ffurfiol yn y Cyfarfod Llawn, ac y dylai Adam Price AC gymeradwyo'r fersiwn derfynol ar ran Comisiwn y Cynulliad.

 

Hefyd, derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad blynyddol drafft, a fydd yn cael ei osod i'w ystyried gan y Cyfarfod Llawn maes o law, gan ddod â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol presennol i ben.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion strategol

3.1

Ystâd y Cynulliad

Cofnodion:

Cadarnhaodd Dave Tosh ei fod wedi cwrdd â phob un o'r Comisiynwyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwaith sydd ar y gweill. Gofynnodd y Comisiynwyr am bapur i roi gwybodaeth gefndir ychwanegol.

Penderfynodd y Comisiynwyr gyfyngu ar gwmpas y gwaith sydd i'w wneud i archwilio'r opsiynau ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol.

3.2

Y Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod gwaith i sefydlu Panel Arbenigol ar ddiwygio trefniadau etholiadol yn mynd rhagddo.

Gan barhau â'u gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn ynglŷn â'r camau a gymerwyd i benodi aelodau'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol y Cynulliad.

Bydd y Panel yn gweithredu'n annibynnol, a'i rôl fydd gwneud argymhellion i Gomisiwn y Cynulliad erbyn hydref 2017 ynglŷn â nifer yr Aelodau y mae eu hangen ar y Cynulliad, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad.

Er y bydd y Panel yn gweithredu'n annibynnol, ni all weithio'n llwyr ar wahân i wirioneddau'r sefyllfa wleidyddol. Bydd y Llywydd hefyd yn sefydlu, ac yn cadeirio, Grŵp Cyfeirio Gwleidyddol a fydd yn cyflawni rôl ymgynghorol er mwyn cynorthwyo'r Panel i sicrhau bod argymhellion ymarferol yn deillio o'i waith.

Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd fwrw ymlaen â'r cyhoeddiadau.

3.3

Yr wybodaeth ddiweddaraf o ran yr UE

Cofnodion:

Wedi i Gynghorwr blaenorol y Comisiwn ar yr UE adael, rhoddwyd gwybod i'r Comisiynwyr am y trefniadau newydd a oedd wedi'u rhoi ar waith, gan ystyried y modd y mae'r sefyllfa wedi newid yn dilyn y refferendwm ar yr UE. 

Bydd deiliad newydd y swydd yn gweithio yng Nghaerdydd ac yn teithio'n aml i Frwsel i barhau i rwydweithio a chynrychioli buddiannau'r Cynulliad a hwyluso ymweliadau gan Aelodau a phwyllgorau.

4.

Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd.

5.

Trefniadau'r Comisiwn

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yr wybodaeth a ddarparwyd am eu cyfarfodydd yn y cyfnod hyd at doriad yr haf 2017.

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Crybwyllodd Adam Price yr arolwg yn y dyfodol agos ar gyfer Aelodau / staff cymorth yr Aelodau.