Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datganiad o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
bod cofnodion 11 Gorffennaf yn gofnod cywir. |
|
Strategaeth Cyllideb y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr ddogfen strategaeth y gyllideb ddrafft a baratowyd yn unol â strategaeth
newydd y Comisiwn ac a oedd yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan y
Comisiwn yn ystod yr haf. Roedd y
ddogfen yn amlinellu'r cynlluniau gwariant a fwriedir ar gyfer 2017-18 yn
ogystal â chynlluniau dangosol a gofynion ariannol hyd at ddiwedd y Pumed
Cynulliad. Trafododd y Comisiynwyr nifer o agweddau ar y gyllideb yn fanwl.
Wrth edrych tua'r dyfodol, mae'r Comisiynwyr yn credu bod angen newid mawr yn y
ffordd rydym yn cynhyrchu, rheoli ac yn defnyddio gwybodaeth am fusnes y
Cynulliad os yw’r Cynulliad yn mynd i gael ei ystyried yn senedd ddigidol o’r
radd flaenaf sy’n agored, yn gynhwysol ac yn hawdd ymwneud â hi, gan arwain at
well cyfreithiau a gwell craffu. Bydd y Comisiwn yn gweithio i wella'r ffordd y
mae pobl yn ymgysylltu â'r Cynulliad a sut y darperir gwasanaethau i'r Aelodau. Bydd
angen strategaeth ar gyfer y gyllideb sy'n darparu cynnydd cymedrol yn lefelau
adnoddau cyffredinol y Comisiwn er mwyn i'r Comisiwn allu parhau i ddarparu
gwasanaethau ardderchog i Aelodau'r Cynulliad. Gallai'r cynlluniau ariannol
tymor hwy fod yn destun newid o ganlyniad i angen i ymateb i'r heriau sy'n dod
i'r amlwg dros y pedair blynedd nesaf, ond, ar sail asesiadau cyfredol, mae
Comisiynwyr yn ystyried bod y cynigion wedi'u gosod ar lefelau sy'n deg ac yn
ddarbodus. Cytunodd
y Comisiwn y dylai'r gyllideb ddrafft gael ei gosod ar 30 Medi. Disgwylir i'r
Pwyllgor Cyllid graffu arni ar 5 Hydref. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn
ynghylch Cynnig y Gyllideb wedi ei gynllunio ar gyfer 16 Tachwedd. |
|
Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cofnodion: Yng
nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, cytunwyd i ystyried cwmpas y gwaith
a'r costau a fyddai'n gysylltiedig â newid enw'r Cynulliad, yn y disgwyliad y
bydd Bil Cymru 2016 yn rhoi cymhwysedd cyfreithiol i'r Cynulliad wneud hynny. Wedi
ystyried opsiynau ar gyfer ymgynghori a materion cysylltiedig, cytunodd y
Comisiynwyr y dylai'r gwaith gael ei wneud i ddatblygu papur ymgynghori, gyda'r
bwriad o fod yn barod i ymgymryd â'r ymgynghoriad ar adeg briodol yn y dyfodol
rhagweladwy, gan ystyried hynt Bil Cymru yn San Steffan. Cytunodd
y Comisiwn hefyd mai'r Llywydd fyddai'r Aelod sy'n gyfrifol am unrhyw Fil y
Comisiwn ar y mater hwn. |
|
Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr newidiadau arfaethedig i'r adroddiad DPA. Cafodd y DPA presennol
eu datblygu yn 2013 a chawsant eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni
anghenion adrodd ar berfformiad y Comisiwn a'u bod yn ddefnyddiol ac yn
berthnasol ar gyfer y Pumed Cynulliad. Mae'r
cynigion yn newid sut y mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu
cyflwyno i gynnwys nifer o ddangosyddion pennawd ac o dan y rhain, mae dangosyddion penodol gyda thargedau. Mae'r
trefniant pennawd/dangosydd hwn yn caniatáu i'r adroddiad newid dros amser,
tra'n parhau i sicrhau cysondeb a'r gallu i ddangos set o ddata cymharol o'r
prif ddangosyddion. Cytunodd
y Comisiynwyr bod y fformat newydd yn hawdd i'w ddeall ac yn haws i'w
ddefnyddio, a chafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y dyfodol. |
|
Papur i'w nodi: Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016 Cofnodion: Cafodd yr
Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016 ei nodi, a chaiff
ei gyhoeddi ar y wefan a'i anfon at y Pwyllgor Cyllid er gwybodaeth. |
|
Papur i'w nodi: Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 11 Gorffennaf Cofnodion: Nodwyd
cofnodion cyfarfod ACARAC ar 11 Gorffennaf. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Nododd y
Llywydd fod y polisi ar werthu alcohol ar yr Ystâd wedi'i godi gyda hi. Teimlai
Comisiynwyr nad yw yfed alcohol tra'n gweithio yn briodol, a gallai greu
risgiau i unigolion. Cytunwyd felly yn unfrydol y dylai'r polisi presennol gael
ei gadw. |