Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kathryn Thomas
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF102KB) Gweld
fel HTML (80KB). |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Dirprwyodd Lindsay Whittle ar ran Bethan Jenkins yn unol â Rheol Sefydlog
17.48. |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125 Prawf Gwaed) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei
farn am gwestiynau manwl y deisebydd, ac yn arbennig, pam nad oes camau'n cael
eu cymryd ar unwaith i gyflwyno sgrinio, o gofio bod Treial Cydweithredol y DU
o Sgrinio am Ganser yr Ofari (UKCTOCS) wedi dangos y gallai prawf gwaed
blynyddol helpu i leihau'r nifer o fenywod sy'n marw o ganser o tua 20%; ac ·
argymell bod y Pwyllgor newydd yn ystyried gwneud darn byr o waith ar y
mater. |
|
P-04-669 Diddymwch Ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i'w chau. Wrth wneud hynny, ystyriwyd y ffaith bod y
Cynulliad ond newydd basio Deddf Tai (Cymru) 2014 ac nad yw wedi cael ei rhoi
ar waith yn llawn eto. |
|
P-04-670 Ffilm am Owain Glyndŵr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a: ·
chroesawodd yr ymateb gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth; a ·
chytunodd i aros am ymateb y deisebydd cyn ystyried y ddeiseb ymhellach. |
|
P-04-671 Cyfreithloni Cymorth i Farw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i: ·
gau'r ddeiseb o ystyried na ddylai fod wedi cael ei chyfrif yn dderbyniol
adeg ei chyflwyno oherwydd yr ymddengys nad oes gan y Cynulliad y pŵer i
weithredu'r ddeiseb; ac ·
wrth ysgrifennu at y deisebydd, cynnwys linc i'r trawsgrifiad o ddadl y
Cyfarfod Llawn ar y mater a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2014. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-655 Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i
ysgrifennu at: ·
Gomisiynydd y Gymraeg a'r Prif Weinidog i ofyn am eu barn am sylwadau'r
deisebydd; ·
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sydd wedi cymryd
tystiolaeth lafar yn ddiweddar gan y Comisiynydd ynghylch y pwynt hwn, i ofyn
iddo ystyried sylwadau'r deisebwyr yn dilyn y sesiwn dystiolaeth honno a'r
amserlen ar gyfer cwblhau eu gwaith ar y mater. |
|
P-04-648 Ceisiadau Cynllunio Nwy ac Olew Anghonfensiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i
gael y wybodaeth ddiweddaraf a addawodd y Gweinidog a'i hystyried bryd hynny,
ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach gan y deisebydd. |
|
P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ac Emyr Roberts, Prif Weithredwr
Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn eu barn ar y gwahaniaeth sydd i'w weld o ran y
camau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr; ·
disgwyl yr ymateb gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain; a ·
gofyn am nodyn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn nodi'r gwahaniaeth o ran y camau
sy'n cael eu cymryd yng Nghymru a Lloegr. |
|
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
|
|
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i
gael sylwadau'r deisebydd am lythyr y Gweinidog cyn trafod y ddeiseb eto. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 5 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
Gweithredu ar Ddeisebau Agored ar ddiwedd y Cynulliad Presennol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y byddai deisebau'n cael eu gadael yn
agored i'r Pwyllgor newydd eu trafod yn y Pumed Cynulliad. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ystyried rhestr o ddeisebau segur, gyda'r
posibilrwydd o'u cau mewn cyfarfod yn y dyfodol. |