P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol.
P-04-648 Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol.
Rydym yn galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ddiwygio
CYFARWYDDYD CYNLLUNIO GWLAD A THREF (HYSBYSU) (OLEW A NWY ANGHONFENSIYNOL) (CYMRU)
2015 er mwyn galw pob cais cynllunio'n ymwneud â datblygiadau olew a nwy
anghonfensiynol i mewn. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys drilio arbrofol am
nwy siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Ar hyn o bryd mae'r Cyfarwyddyd yn ymwneud â cheisiadau
sy'n cynnwys dulliau echdynnu anghonfensiynol penodol yn unig ac mae'r
Awdurdodau Cynllunio Lleol yn tueddu i ganiatáu'r cais.
Nid yw'r Cyfarwyddyd presennol yn berthnasol i nwyeiddio glo tanddaearol er y
gall effeithiau'r broses hon fod yr un mor niweidiol i'r amgylchedd a
chymunedau. Nid yw ychwaith yn berthnasol i ddrilio arbrofol neu ddrilio prawf.
Mae pryderon cynyddol ynghylch effaith drilio arbrofol, yn enwedig o safbwynt sŵn,
traffig, y posibilrwydd o darfu ar gyrsiau dŵr ac o greu symudiadau
seismig, creu safleoedd diwydiannol yng nghefn gwlad a'r effaith ar brisiau
tai.
Os oes moratoriwm ar echdynnu, yna beth yw pwrpas archwilio? Os yw gwaith
echdynnu wedi'i wahardd, mae'n annerbyniol ac afresymol caniatáu i waith
archwilio fynd rhagddo.
Prif
ddeisebydd: Councillor Arfon Jones
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 22 Medi 2015
Nifer
y deisebwyr: 1,254 llofnod ar lein a 293 llofnod bapur
Statws
Yn ei gyfarfod ar 05/03/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr
ohebiaeth gan Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i
gau'r ddeiseb yn sgil y cadarnhad a gafwyd bod polisi Llywodraeth Cymru wedi ei
ddiwygio gan olygu y bydd Gweinidogion yn cael eu hysbysu ynghylch, ac yn
ystyried ailystyried, bob cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau
olew a nwy anghonfensiynol, lle nad yw awdurdodau cynllunio lleol wedi
penderfynu eu gwrthod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/09/2015.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2015