Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

Trafod y Sesiwn dystiolaeth o gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2015 - Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i:

 

  • glywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol 
  • gofyn am sesiwn friffio ymchwil ar y costau posibl i fusnesau petaent yn newid o ddefnyddio pecynnau polystyren i ddewisiadau mwy ecogyfeillgar;
  • ysgrifennu at Gyngor Sir Rhydychen yn gofyn am eu barn am y ddeiseb; a
  • thynnu sylw'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at y ddeiseb.

 

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-619 LLEOLIAETH O RAN CYNLLUNIO AC IAWNDAL AR GYFER TRYDYDD PARTÏON

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn ar ymateb y deisebydd; a
  • thynnu sylw'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd at y ddeiseb.

 

 

3.2

P-04-618 Diogelu Gwasanaethau Bancio mewn Cymunedau Hawdd eu Targedu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ofyn i'r ddeiseb gael ei hystyried fel rhan o waith y grŵp sy'n cael ei sefydlu i edrych ar y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol; a 

·         gofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Prif Weinidog.

 

 

3.3

P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd eto i ofyn am eu barn ar lythyr y Gweinidog.

 

3.4

P-04-625 P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyfeirio'r ddeiseb yn ffurfiol i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'w gymryd i ystyriaeth wrth lunio eu hadroddiad cam 1 ar y Bil Lefelau Staffio Nyrsio Diogel (Cymru) a gofyn iddynt ein hysbysu o'r cynnydd a phan fyddant yn cau'r ddeiseb.

 

3.5

P-04-627 Gwell Gwasanaethau Trên i Gymudwyr ar gyfer Trigolion Gogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ei hymateb i sylwadau'r deisebydd, yn enwedig y diffyg gwasanaethau addas i gymudwyr.

 

3.6

P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • geisio briff cyfreithiol ar y pwynt a godwyd yn llythyr y Gweinidog lle y dywedodd, 'Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddeddfu ynghylch unrhyw iaith ar wahân i'r Gymraeg.'; ac
  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn am ymateb y deisebydd.

 

 

3.7

P-04-620 Ailgyflwyno’r Terfyn Cyflymder Cenedlaethol ar Ffordd Osgoi Aberteifi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i'r Gweinidog roi sylw dyledus i'r ddeiseb ac i roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd hi wedi dod i benderfyniad ar y gorchymyn traffig arfaethedig; ac
  • ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei farn ar lythyr y Gweinidog.

 

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am linell amser ar welliannau i'r A40. 

 

4.2

P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

4.3

P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan ei bod yn anodd gweld sut y gall y mater fynd yn ei flaen ymhellach o ganlyniad i delerau ymateb y Gweinidog. 

 

4.4

P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau ar adroddiad yr Athro Donaldson neu ar ddatganiad y Gweinidog. 

 

4.5

P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Prif Weinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd yr adolygiad dan arweiniad Dr Margaret Flynn, gan gynnwys a yw Gweinidogion Cymru wedi derbyn unrhyw ganfyddiadau interim, fel yr awgrymwyd yn wreiddiol.

 

 

4.6

P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i sylwadau'r deisebydd.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 6.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. 

 

6.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.