P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnig cynllun benthyg blaendal blynyddol ir rheini syn prynu tŷ  am y tro cyntaf / sy’n rhentu tai yng Nghymru.


Y bwriad yw y byddai angen i gwmnïau morgais Cymru gymryd rhan yn y cynllun hwn hefyd, a chytuno i ofyn am ddim mwy na 5% o flaendal ar unrhyw eiddo addas (yn ogystal â chynnig morgeisi llog isel berchen ar yr hyn rydych yn talu amdano). Byddai hyn, er enghraifft, yn golygu y gellid helpu hyd at 15,000 o bobl yng Nghymru syn prynu tŷ am y tro cyntaf (prynwyr tro cyntaf y mae eu henillion yn is na throthwy penodol ac sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru yn barhaus am o leiaf 10 mlynedd, neu sydd â chysylltiadau busnes llawn-amser â Chymru) gyda benthyciad blaendal o tua £7,500 yr un ar gyfer tŷ pris cyfartalog, gydar broses o dalur benthyciad yn ôl yn cael ei gohirio am o leiaf blwyddyn. Unwaith y bydd gwerthwyr a phrynwyr yn cytuno ar y cynllun, byddair eiddo dan sylw yn cadw ei gymal meddiannaeth cymwys, fel syn digwydd yn achos cynlluniau tebyg ym mharciau cenedlaethol y Peak District a North York Moors.

 

Gwybodaeth Ategol:

Er na all Llywodraeth Cymru ymyrryd ag eiddo preifat, mae’n bosibl y gellid annog perchnogion, gan gynnwys perchnogion ail gartrefi, i ystyried gwerthu drwy'r cynllun os byddant yn penderfynu gwerthu eu heiddo. Dylai’r rheini sy’n adnewyddu eiddo adfeiliedig / ffermdai am y tro cyntaf hefyd fod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Y bwriad yw y byddai asiantau tai Cymru a’r gwerthwyr tai yn cael ffi misol (a delir gan y llog ar y benthyciadau blaendal) i gymryd rhan yn y cynllun gwirfoddol, drwy gytuno i hysbysebu, gwerthu neu rentu yng Nghymru, ac i ddinasyddion cymwys yng Nghymru yn unig ar gyfer y 6 mis cyntaf ar ôl i eiddo gael ei roi ar y farchnad. Ar ôl chwe mis, byddai’n agored i unrhyw un.

 

Byddai'r cynllun hwn yn helpu i roi cyfle i deuluoedd ac unigolion i fyw a gweithio yn eu hardaloedd au hunain a byddai’n golygu na fyddant yn cael eu prisio allan o'r farchnad gan gymarebau afresymol o ran cyfartaledd cyflog a phrisiau eiddo. Byddai hefyd yn sicrhau bod mwy o arian yn aros o fewn economïau lleol, gan roi hwb i economi Cymru yn gyffredinol a’i wneud yn fwy cynaliadwy a chynhyrchiol.

 

Prif ddeisebydd:  Cymru Sofren

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Mehefin 2013

 

Nifer y llofnodion : 17

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2013