Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Dirprwy Glerc: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

9.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones AC. Roedd Bethan Jenkins AC yn dirprwyo ar ei rhan.

 

9.00 - 9.10

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         Dementia UK; a’r

·         Gymdeithas Alzheimer i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

Gall y Pwyllgor wahodd y deisebydd i roi tystiolaeth lafar yn y dyfodol.

2.2

P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei barn am y ddeiseb. Yn amodol ar ymateb y Gweinidog, gall y Pwyllgor gyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ar y ddeiseb.

2.3

P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb. 

 

9.10 - 10.10

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Hijinx i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes ffrydiau ariannu ychwanegol wedi cael eu cadarnhau, a pha effaith y mae'r gostyngiad mewn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau wedi ei chael ar ei waith.

 

 

3.2

P-04-407 Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb ac yn sgîl yr ohebiaeth ddiweddaraf a gafwyd gan Aelod Cynulliad Tor-faen, cytunwyd i ohirio ystyried y ddeiseb tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

3.3

P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         aros am ganfyddiadau’r adolygiad annibynnol; ac

·         ysgrifennu at Gyngor Ceredigion i dynnu sylw at y materion sy’n parhau i beri pryder i’r deisebwyr ynghylch y gwasanaethau a ddarperir, ynghyd â’r pryderon am yr adolygiad annibynnol.

 

 

3.4

P-04-424: Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         aros nes y byddai’r ymgynghoriad am wasanaethau gofal iechyd yn ne- ddwyrain Cymru yn cael ei gyhoeddi, er mwyn gweld pa gynigion a gaiff eu gwneud o ran gwasanaethau Ysbyty Castell-nedd Port Talbot; ac

·         ysgrifennu at Ddeoniaeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch amseriad y cyhoeddiadau.

3.5

P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y mater, a thynnu sylw at yr ymateb diweddar a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog.

 

3.6

P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau yn y gwaith ymchwil ac i rannu’r astudiaeth â’r Pwyllgor pan gaiff ei chyhoeddi.

 

3.7

P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru r

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         holi barn rhanddeiliaid nad ydynt wedi ymateb i’r ymgynghoriad, ond y gallai eu barn fod yn ddefnyddiol: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Dogs Trust a Cats Protection;

·         ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ofyn a yw Lloegr wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i’r syniad hwn;

·         ysgrifennu at lywodraethau yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon i ofyn a ydynt wedi ystyried y syniad hwn; ac

·         ymchwilio i’r posibilrwydd o godi hyn yn y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig.

3.8

P-03-144 Cŵn Tywys y Deillion - lle sy'n cael ei rannu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

 

·         Y Pwyllgor Menter a Busnes i ofyn iddo ystyried y materion hyn wrth ystyried y Bil Teithio Llesol (Cymru); a’r

·         Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau ynghylch y mater hwn.

 

3.9

P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru s

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb ac yn sgîl gwaith blaenorol y Pwyllgor ar y ddeiseb hon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 

3.10

P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

 

·         Gyngor Sir Powys i gael ei farn am y ddeiseb; a

·         chael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.

 

3.11

P-04-402 Gweddïau Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

 

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a fyddai’n ystyried cyhoeddi nodyn yn crynhoi’r cyngor cyfreithiol a gafwyd ynghylch y mater hwn, fel y gwnaeth CLlLC gais amdano; ac

·         Un Llais Cymru, i ofyn ei farn am y ddeiseb.

 

3.12

P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i;

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i dynnu sylw at yr anawsterau sy’n codi yn sgîl yr amserlennu, ac iddo ystyried y materion hyn yn fanylach, ac i ofyn a fu unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Arriva; a

·         rhannu adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig pan gaiff yr adroddiad hwnnw ei gyhoeddi.

 

3.13

P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i;

 

·         dynnu sylw at y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebydd;

·         gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran yr adolygiad o’r terfyn cyflymder;

gofyn iddo gadarnhau y bydd yr adolygiad wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol; a

·         gofyn faint o amser y bydd yn ei gymryd i gyflwyno’r terfyn amser diwygiedig os y caiff ei gynnig.

3.14

P-04-428: Ynni amgen ar gyfer goleuadau stryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at CLlLC i ofyn ei barn am y ddeiseb.

3.15

P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chytnodd i dderbyn gwahoddiad y deisebwyr i fynd allan yng Nghaerdydd i brofi rhai o’r materion a godir yn y ddeiseb drosto’i hun.

3.16

P-04-414 Swyddi Cymreig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb mewn sesiwn breifat a chytunodd i ohirio’r drafodaeth tan gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

3.17

P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddonaeth i ofyn iddo hysbysu’r Pwyllgor unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud.

 

3.18

P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb a chutunodd i ysgrifennu at;

 

·         y deisebwyr i ofyn a ydynt yn teimlo y gallai’r Pwyllgor ychwanegu gwerth at y gwaith o ystyried y mater hwn, yn sgîl safbwynt y Llywodraeth; ac

·         archwilio a allai Bagloriaeth Cymru gynnwys Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys.

3.19

P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y gweinidog am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i gael ei farn am ohebiaeth y Dirprwy Weinidog Sgiliau.

 

10.10

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 5

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

10.10 - 11.00

5.

Adolygiad o gymorth Pwyllgorau

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y cymorth a roddir i bwyllgorau.