P-04-441 : Gwaith i Gymru - Work for Wales

P-04-441 : Gwaith i Gymru - Work for Wales

Yng ngoleuni’r ffigurau diweddaraf ar gyfer diweithdra ymhlith ieuenctid Cymru, mae Plaid Ifanc yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau effeithiol a chadarnhaol i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer y genhedlaeth hon o bobl ifanc.

 

Yn benodol, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i (1) creu cynllun i gefnogi 30,000 o brentisiaethau ac ehangu’r rhaglen Recriwtiaid Ifanc; (2) datblygu rhaglen hyfforddiant mewn gwaith modern ac uchel ei werth i gynyddu gallu pobl ifanc i gael eu cyflogi; a (3) ymestyn pwerau benthyca awdurdodau lleol i £350 miliwn er mwyn iddynt allu cynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint gyda chronfeydd benthyca lleol. Yn ogystal â’r camau hyn, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud pob peth o fewn ei gallu i wyrdroi’r sefyllfa bryderus hon ac i greu gwaith i Gymru er gwaethaf y toriadau i’r sector cyhoeddus gan Lywodraeth y DU.Mae’r cyfnod hwn yn un anodd, ac mae Plaid Ifanc yn credu bod y toriadau sy’n cael eu gorfodi arnom gan lywodraeth y glymblaid yn San Steffan yn gwbl afresymol. Fodd bynnag, ni ddylai’r toriadau hynny atal Llywodraeth Cymru rhag gweithredu yn awr i helpu’r economi yng Nghymru. Mae diweithdra ymhlith yr ifanc wedi cyrraedd y lefelau gwaethaf erioed, ac mae diweithdra’n waeth yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, sy’n peri pryder; mae’n ymddangos ein bod yn mynd yn groes i’r duedd yn y DU. Mae perygl gwirioneddol y bydd y genhedlaeth hon o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn troi’n genhedlaeth goll. Maent mewn perygl o wynebu cynni ariannol am weddill eu bywydau oherwydd yr argyfwng swyddi y maent yn ei wynebu heddiw. Nid yw cael chwarter o’n pobl ifanc yn ddi-waith yn sefyllfa gynaliadwy, ac mae’n gam cyntaf ar lwybr peryglus at anawsterau economaidd i Gymru am ddegawdau i ddod. Rhaid cymryd camau effeithiol a chadarnhaol yn awr i wyrdroi’r duedd frawychus hon a sicrhau ein bod yn creu gwaith i Gymru.

 

Prif ddeisebydd: Cerith Rhys Jones

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  4 Rhagfyr 2012

 

Nifer y llofnodion:  129

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013