P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion

Geiriad y ddeiseb:

 

Rydym ni, Cyngor Cymuned Aber-porth, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Mae pentref Blaen-porth yn gorwedd bob ochr i’r brif ffordd arfordirol rhwng de a gogledd Cymru, sef yr A487. Mae tua dwy ran o dair o boblogaeth y pentref yn byw i’r de o’r brif ffordd; mae’r gweddill yn byw yn bennaf o amgylch yr eglwys leol i’r gogledd. Yn ôl y wybodaeth y mae Cyngor Cymuned Aber-porth wedi’i chanfod, hwn yw’r unig bentref heb derfyn cyflymder gorfodol ar hyd arfordir Bae Ceredigion rhwng Abergwaun i’r de a Phorthmadog, Gwynedd, i’r gogledd.

 

Data hanesyddol hyd at Ebrill 2012: -

Mae llythyrau a negeseuon e-bost niferus wedi’u hanfon at Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

Ni chafwyd yr un ateb gan Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru. Mae Adran Briffyrdd Ceredigion yn ymateb ar ffurf llythyrau neu drwy e-bost, ond ni chafwyd cefnogaeth i’r newid.

Ym mis Hydref 2009, cafwyd Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 24/2009: Gosod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru. Am ddwy flynedd ni wnaeth Gyngor Sir Ceredigion ddim, ac yna, mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor ar 25/10/2011, cynigiwyd moratorium ar gyflwyno terfynau cyflymder newydd. Roedd hyn ar yr wythfed o’r naw tudalen a oedd yn cael eu trafod: fait accompli!  Mae penderfyniad swyddogion Cyngor Sir Ceredigion i ddechrau’r broses ddwy flynedd ar ôl dyddiad y cylchlythyr ac i gymryd tair blynedd (tan fis Rhagfyr 2014) i’w rhoi ar waith yn cwestiynu hygrededd y broses.

Ysgogodd y penderfyniad Gyngor Cymuned Aber-porth i ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, ond roedd yr ateb ond yn cefnogi’r “party line”.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, hefyd yn ceisio cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol ond heb lwyddiant.

 

O fis Mai 2012 ymlaen: -

Ar ôl yr etholiadau lleol ym mis Mai, teimlodd Cyngor Cymuned Aber-porth fod ganddo fandad newydd gan yr etholwyr i geisio unwaith eto i gael terfyn cyflymder gorfodol ym Mlaen-porth.

Cychwyn yr ymgyrch oedd ymweliad safle gyda’r Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet y Cyngor dros Drafnidiaeth, a gefnogodd ein hachos ac a anfonodd negeseuon e-bost at Adran Briffyrdd y Cyngor a menter Gan Bwyll.

Cyfarfu cadeirydd Pwyllgor Priffyrdd Cyngor Cymuned Aber-porth â Mark Williams, Aelod Seneddol Ceredigion, a gynigiodd ei gefnogaeth yntau.

Penderfynwyd hefyd anfon copi at Aelodau Cynulliad Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.  Cafodd Rebecca Evans AC ateb o’r diwedd gan Mr Deio Evans o’r Asiantaeth, yn ailadrodd yr un stori, sef y bydd rhaid aros tan fis Rhagfyr 2014 cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau newydd ar derfynau cyflymder.  Cynigiodd William Powell AC y Pwyllgor Deisebau fel cyfle olaf.

 

Gwybodaeth ychwanegol o ran diogelwch: -

Ddiwedd tymor yr haf 2012, caeodd Cyngor Sir Ceredigion yr ysgol leol, Ysgol Gynradd Blaen-porth, ynghyd â sawl ysgol arall, ac agorodd ysgol newydd, Ysgol Gymunedol T Llew Jones, ym Mrynhoffnant, Ceredigion, rhyw bum milltir i’r gogledd ar yr A487.

Fel y nodwyd yn y paragraff cefndir, mae dwy ran o dair o gartrefi Blaen-porth yn rhan ddeheuol y pentref.  Mae gan y disgyblion hyn a’u rhieni ddau ddewis o ran mynd i’r ysgol newydd.

 

  1. Gallant fynd â’u plant ysgol gynradd yn y bore i’r safle bws dros y ffordd sydd o fewn terfyn cyflymder cynghorol gyda therfyn cyfreithiol o 60mya (amcangyfrifir bod dros hanner y traffig yn mynd yn gynt na’r cyflymder cenedlaethol hwn). Mae amseroedd codi plant ysgol hefyd yn cyd-daro â thraffig cymudwyr, neu
  2. Gallant gludo’r plant mewn ceir i faes parcio cyn-ysgol Blaen-porth fel y gallant ddal y bws yn ddiogel. Mae risgiau ynghlwm â’r dewis hwn hefyd, o ran mai hyn a hyn o amser yn unig sydd ar gael i ddal y bws ysgol, yn hytrach nag o’r blaen pan oedd yr ysgol ar agor.

 

Wrth gwrs, bydd y plant sy’n byw ar ochr ogleddol y pentref yn gorfod croesi’r ffordd beryglus hon wrth ddychwelyd o’r ysgol.

Mae’r sefyllfa hon wedi cael sylw yn y wasg leol, a hynny yn rhifyn 25 Medi 2012 o’r Tivy-Side Advertiser.

 

Crynodeb: -

Nid yw Cyngor Cymuned Aber-porth yn gallu deall pam nad oes terfyn cyflymder gorfodol ym Mlaen-porth, na diffyg cefnogaeth Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion i gyflwyno terfyn.   Nid yw Ceredigion yn sir fawr, ac mae cymryd tair blynedd i wirio terfynau cyflymder ar Ffyrdd A a B yn ymddangos yn gyfnod eithriadol o hir i gynnal ymarfer o’r fath.

Dylai cyflwyno terfyn cyflymder mewn un pentref ar yr A487 yn y sir fod yn gymharol ddidrafferth.

Cynigiwyd y ddeiseb gan:   Cyngor Cymuned Aber-porth

Y dyddiad yr ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf:  16 Hydref 2012

Nifer y llofnodion:   Cyngor Cymuned Aber-porth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;