P-05-700 Ariannu Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig
P-05-700 Ariannu Cyllid Myfyrwyr ar gyfer Cyrsiau Ôl-raddedig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Huw Rhys Norvill ar ôl casglu 33 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Mae llawer o bobl sy'n dymuno
cael addysg y tu hwnt i lefel israddedig bellach yn cael eu rhwystro gan y
ffaith ei bod yn ofynnol iddynt gael benthyciad banc er mwyn ariannu eu
hastudiaethau.
Credaf y dylai'r Llywodraeth
wneud mwy i sicrhau y gall pobl sy'n gweithio fforddio i barhau gyda'u haddysg.
Ar hyn o bryd, mae hynny'n arwain at ddyled fawr, a hynny ond os ydynt yn
gymwys ar gyfer benthyciad banc.
Statws
Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod
gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/09/2016
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Tor-faen
- Dwyrain De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/08/2016