Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft

Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft

Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) drafft i ymgynghori yn ei gylch.  Cynhaliodd y Llywodraeth  ymgynghoriad ynghylch y Bil drafft gyda’r bwriad o gyflwyno’r Bil yn ystod y Pumed Cynulliad. Bu’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn craffu ar y Bil cyn y broses ddeddfu.

 

Dyma oedd cylch gorchwyl y Pwyllgor ar gyfer y gwaith craffu cyn y broses ddeddfu:

 

Ystyried y Bil drafft a'r dogfennau atodol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (sy'n asesu costau a manteision y bwriadau polisi posibl a gynhwysir yn y Bil drafft).

 

Tystiolaeth

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor galwad am dystiolaeth, a ddaeth i ben ddydd Gwener 21 Ionawr 2016.

 

Adroddiad ar yr Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Draft – Mawrth 2016

 

Llythyr gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft - 9 Mawrth 2016

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2015

Ymgynghoriadau