Ymgynghoriad

Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft.

 

Cylch gorchwyl

 

Dyma’r cylch gorchwyl ar gyfer gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor:

 

  • Ystyried y Bil drafft a'r dogfennau atodol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (sy'n asesu costau a manteision y bwriadau polisi posibl a gynhwysir yn y Bil drafft).

 

Gwahoddiad i gyfrannu at y gwaith craffu cyn deddfu

 

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo â’i waith craffu ar y Bil drafft. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cyfan neu unrhyw rannau o'r Bil drafft neu'r dogfennau ategol. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Efallai y bydd y Pwyllgor hefyd yn gwahodd nifer fach o dystion i roi tystiolaeth lafar i lywio ei waith craffu.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. 

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn  www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565