Penderfyniadau

Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2014-15

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

21/11/2013 - Motion to approve the Assembly Commission's Budget 2014/15

Dechreuodd yr eitem am 14.56

NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


04/10/2013 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15

2.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

 

2.2 Holodd yr Aelodau y tystion a ganlyn am Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad: Angela Burns AC, Comisiynydd; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.

 

2.3 Gofynnodd y Pwyllgor i Angela Burns AC ddarparu gwybodaeth bellach ar y ffigurau ar gyfer buddsoddi mewn TGCh a'r meysydd y byddai'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi ynddynt.

 

2.4 Gofynnodd y Pwyllgor i Angela Burns AC ddarparu nodyn ar nifer y ceisiadau gan ysgolion sydd am ymweld â'r Cynulliad sy'n cael eu gwrthod, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o'r wybodaeth hon.