Manylion y penderfyniad
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Comisiwn y Senedd
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Gosododd Comisiwn
y Cynulliad eu cyllideb
ddrafft ar gyfer 2014-15 (PDF, 1MB) o flaen y Cynulliad ym Medi 2013.
Ystyriodd y Pwyllgor
Cyllid y gyllideb ddrafft a cyhoeddodd
adroddiad arno (PDF, 483KB) yn Hydref 2013. Pasiwyd cyllideb
derfynol (PDF, 2MB) Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15 gan y Cynulliad
cyfan yn Nhachwedd 2013.
Penderfyniadau:
2.1 Roedd Peter Black AC yn
absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
2.2 Holodd yr Aelodau y
tystion a ganlyn am Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad: Angela Burns AC,
Comisiynydd; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nicola
Callow, Pennaeth Cyllid.
2.3 Gofynnodd y Pwyllgor i
Angela Burns AC ddarparu gwybodaeth bellach ar y ffigurau ar gyfer buddsoddi
mewn TGCh a'r meysydd y byddai'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi ynddynt.
2.4 Gofynnodd y Pwyllgor i
Angela Burns AC ddarparu nodyn ar nifer y ceisiadau gan ysgolion sydd am ymweld
â'r Cynulliad sy'n cael eu gwrthod, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o'r
wybodaeth hon.
Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2013
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: