Penderfyniadau
Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
03/11/2016 - Motions to elect Members to Committees
Dechreuodd yr eitem am 14.57
NDM6130 Elin Jones (Ceredigion):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Neil
McEvoy (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Rhun ap
Iorwerth (Plaid Cymru).
NDM6131 Elin Jones (Ceredigion):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) yn aelod o'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
22/09/2016 - Motion to elect Members to committees
Dechreuodd yr eitem am 14.19
NDM6100 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Nathan Gill
(Annibynnol) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn
lle Michelle Brown (UKIP).
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
22/09/2016 - Motion to elect Members to committees
Dechreuodd yr eitem am 14.19
NDM6099 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid
Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Simon Thomas (Plaid Cymru).
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15/09/2016 - Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6091 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol
Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14/07/2016 - Motion to Elect Members to Committees
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM6078 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David J Rowlands (UKIP Cymru)
yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru).
NDM6079 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Michelle Brown
(UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mark
Reckless (UKIP Cymru).
NDM6081 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nathan Gill (UKIP
Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth wrth Gefn yn lle Michelle
Brown (UKIP Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
23/06/2016 - Motion proposing the titles and remits of committees
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM6031 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1:
1. Yn sefydlu Pwyllgor
Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 19; swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau
Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â Chronfa
Gyfunol Cymru.
2. Yn sefydlu Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir
yn Rheolau Sefydlog 18.2 and 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â
pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth
gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
16/06/2016 - Motion to Elect Members to a Committee
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6028 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
(i)
Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David
Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros
dro; a
(ii)
David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.