Manylion y penderfyniad
Motion proposing the titles and remits of committees
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a
gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno aelodaeth a chadeirydd pob pwyllgor a
sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM6031 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
16.1:
1. Yn sefydlu Pwyllgor
Cyllid i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol
Sefydlog 19; swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheolau
Sefydlog 18.10 ac 18.11; ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â Chronfa
Gyfunol Cymru.
2. Yn sefydlu Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir
yn Rheolau Sefydlog 18.2 and 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â
pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y cafodd adnoddau eu defnyddio wrth
gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 23/06/2016
Dyddiad y penderfyniad: 22/06/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd