Penderfyniadau

Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

30/01/2014 - Debate on the Environment and Sustainability Committee's Report on the Inquiry into energy policy and planning in Wales – Follow up report

Dechreuodd yr eitem am 15.05

 

NDM5415 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad dilynol y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


18/10/2012 - Debate on the Environment and Sustainability Committee’s report on Energy Policy and Planning Wales

Dechreuodd yr eitem am 16:07

 

NDM5066 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


26/03/2012 - Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - Tystiolaeth ar ddal a storio carbon a thechnoleg glo glân

2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ar bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.


25/11/2011 - Ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru - tystiolaeth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

4.1 Atebodd y tystion gwestiynau aeldoau’r Pwyllgor am bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru.

 

4.2 Cytunodd Dr Wood i ddarparu nodiadau am y nifer o geisiadau a ddaeth i law ar gyfer prosiectau uwchben ac o dan 50MW, wedi’u nodi yn ôl sector. Cytunodd hefyd i ddarparu nodyn am gyfraniad Cyngor Cefn Gwlad Cymru i’r pwyllgor cynllunio a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gynghori ar dreulio anaerobig a throi wastraff yn ynni.