Manylion y penderfyniad
Debate on the Environment and Sustainability Committee’s report on Energy Policy and Planning Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru. Dyma
gylch gorchwyl yr adolygiad.
- Bydd
y Pwyllgor yn ystyried sut mae’r trefniadau datganoli presennol ar gyfer
polisi ynni a chynllunio yn effeithio ar gyflawni’r ‘cymysgedd ynni’ y mae
Llywodraeth Cymru am ei weld, fel yr amlinellir yn Chwyldro
Carbon Isel – datganiad polisi ynni (2010) a’r UK
Renewable Energy Roadmap (2011).
- beth yw’r goblygiadau i Gymru os bydd y
cyfrifoldeb dros ganiatáu prosiectau seilwaith mawr ar y tir mawr ac ar y
môr yn parhau i fod yn fater sy’n cael ei gadw yn ôl gan Lywodraeth y
DU?
- sut mae hyn effeithio ar gyflawni dyheadau
Llywodraeth Cymru ar gyfer gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy, fel y’u
nodir yn y Datganiad Polisi Ynni?
- sut mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed
Llywodraeth Cymru o gael gostyngiad o 3 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr bob blwyddyn o 2011 ymlaen?
- beth fydd yr effaith os na fydd penderfyniadau
caniatáu ar gyfer prosiectau seilwaith mawr a datblygiadau cysylltiedig
yn cael eu gwneud yn unol â pholisi cynllunio Cymru?
Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried dwy ddeiseb am ganllawiau cynllunio
Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag ynni gwynt ar y tir mawr a’r effaith ar
gymunedau lleol a seilwaith.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:07
NDM5066 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad