Ymgynghoriad
Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 14 Hydref 2019 a Dydd Mercher, 15 Ionawr 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- NSIT 01 Ysgol Busnes Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 328 KB
- NSIT 02 Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- NSIT 03 Institute of Chartered Accountants of Scotland (ICAS) (Saesneg yn unig) PDF 292 KB
- NSIT 04 Llywodraeth Cymru PDF 776 KB
- NSIT 05 Chartered Institute of Taxation (CIOT) and the Low Incomes Tax Reform Group (LITRG) (Saesneg yn unig) PDF 765 KB
- NSIT 06 Institute for Fiscal Studies (IFS) (Saesneg yn unig) PDF 261 KB
- NSIT 07 Dadansoddi Cyllid Cymru (Saesneg yn unig) PDF 407 KB
- Pecyn ymgynghori (dwyieithog) PDF 4 MB
Diben yr ymgynghoriad
Ers mis Ebrill 2018, mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am rai o’r trethi
sy’n cael eu talu yng Nghymru, gan gynnwys Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT)
newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2019.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i effaith posibl
gwahanol gyfraddau o dreth incwm ar draws ffin Cymru-Lloegr.
Cylch Gorchwyl:
- Archwilio effeithiau amrywiadau treth incwm
is-genedlaethol mewn systemau treth rhyngwladol ar ymddygiad enillwyr
incwm isel, canolig ac uchel, yn enwedig ymfudo ac osgoi treth.
- Deall sut y gall enillwyr incwm isel, canolig
ac uchel ymateb i amrywiadau mewn cyfradd treth incwm ar gyfer pob band
treth rhwng Cymru a Lloegr.
- Deall lefel yr amrywiad mewn cyfraddau treth
incwm a allai ysgogi newid ymddygiadol ymysg enillwyr isel, canolig ac
uwch yng Nghymru a Lloegr.
- Asesu effaith ariannol ar refeniw Cyfraddau
Treth Incwm Cymru gyda lefelau amrywiol o amrywiad cyfradd treth.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565