Ymgynghoriad
Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 16 Hydref 2017 a Dydd Llun, 13 Tachwedd 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) - Ymatebion i’r Ymgynghoriad - Rhagfyr 2017 PDF 501 KB
- RSL01 - Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru [Saesneg yn unig] PDF 66 KB Gweld fel HTML (2) 14 KB
- RSL02 - The Chartered Institute of Housing Cyrmu [Saesneg yn unig] PDF 223 KB Gweld fel HTML (3) 42 KB
- RSL03 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy PDF 40 KB Gweld fel HTML (4) 9 KB
- RSL04 - UK Finance [Saesneg yn unig] PDF 62 KB Gweld fel HTML (5) 25 KB
- RSL05 - Wynne Jones [Saesneg yn unig] PDF 56 KB Gweld fel HTML (6) 17 KB
- Tystiolaeth ychwanegol gan y Sefydliad Tai Siartredig Cymru PDF 225 KB
Diben yr ymgynghoriad
Sefydlodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol is-bwyllgor i gynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion y Bil
Rheoleiddio Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).
Ar 29 Medi 2017,
cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (“ONS”) y dylid cynnwys Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig Cymru yng nghategori’r Corfforaethau Preifat
Anariannol yn y cyfrifon cenedlaethol.
Roedd Llywodraeth Cymru
wedi datgan mai diben y Bil oedd ei gwneud yn bosibl ailddosbarthu Landlordiaid
Preifat Cymdeithasol fel “Corfforaethau Preifat Anariannol” wrth baratoi
cyfrifon y Llywodraeth.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Roedd yr is-bwyllgor yn
croesawu barn ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Wrth ddrafftio'r cyflwyniadau,
ystyriwyd y cwestiynau canlynol:
- A yw’r Bil yn gwneud unrhyw beth sydd naill ai’n syrthio’n brin o’r
newidiadau a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu sy’n mynd
ymhellach na’r newidiadau sy’n ofynnol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol?
- Os felly, sut y gellir gwella’r Bil i sicrhau ei fod yn cydymffurfio
â’r newidiadau a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol?
Gofynnwyd i bobl a oedd yn ymateb i nodi na fyddai cylch
gwaith yr is-bwyllgor yn caniatáu iddo wneud dim mwy nag ystyried yr agwedd
gyfyngedig hon ar bolisi tai. Ni fyddai’r is-bwyllgor yn gallu ystyried
sylwadau sy’n ymdrin â materion y tu hwnt i egwyddorion cyffredinol.
Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyniadau oedd dydd Llun 13 Tachwedd 2017.
Datgelu
gwybodaeth
Gofynnwyd i bobl a oedd yn ymateb i sicrhau
eu bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o
ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r is-bwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565