Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant. Awdurdododd y Prif Weinidog Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, fel yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil, o 9 Tachwedd 2017.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

 

Gwybodaeth am y Bil

Diben y Bil oedd i ddiwygio neu ddileu’r pwerau yr oedd Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ystyried eu bod yn dangos bod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn destun rheolaeth gan lywodraeth ganolog a chan lywodraeth leol.

 

Roedd y newidiadau hyn yn galluogi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ystyried ail-ddosbarthu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig fel sefydliadau sector preifat at ddibenion cyfrifon cenedlaethol ac ystadegau economaidd eraill y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Cyfnod Presennol

Deddf

Daeth Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru ar 13 Mehefin 2018.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 16 Hydref 2017

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF 121KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF 1MB)

Datganiad y Llywydd ar gymhwysedd (PDF 95KB)

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil (PDF 53KB)

Datganiad ar fwriad polisi’r Bil (PDF 203KB)

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Trafododd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sut y bydd yn ymdrin â gwaith Cyfnod 1 ar 9 Hydref 2017.

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd yr Is-bwyllgor ar y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

24 Hydref 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

7 Tachwedd 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

21 Tachwedd 2017

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

12 Rhagfyr 2017

 

(Preifat)

(Preifat)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

20 Tachwedd 2017

Tystiolaeth gan Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

25 Hydref 2017

Ystyried y ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

(Preifat)

(Preifat)

23 Tachwedd 2017

Tystiolaeth gan Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Trawsgrifiad

 

 

Gweld y cyfarfod

Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio at yr Pwyllgor Cyllid - 12 Rhagfyr 2017 (PDF 292 KB)

 

Nodyn Technegol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid - 5 Ionawr 2018 (PDF, 63 KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Goblygiadau ariannol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (PDF, 648KB)

 

                Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio at yr Pwyllgor Cyllid - 21 Chwefror 2018 (PDF, 315KB)

 

Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) - Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF, 649KB)

 

                Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol – 21 Chwefror 2018 (PDF, 326KB)

 

Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad ar Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (PDF, 819KB)

 

                Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – 21 Chwefror 2018 (PDF, 374KB)

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Chwefror 2018.

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Chwefror 2018.

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 12 Mawrth 2018.

Cofnodion Cryno: 12 Mawrth 2018

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau –  28 Chwefror 2018 (PDF 68KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 28 Chwefror 2018 (PDF, 150KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau –  2 Mawrth 2018 (PDF, 94KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 12 Mawrth 2018 (PDF, 130KB)

Grwpio Gwelliannau – 12 Mawrth 2018 (PDF, 69KB)

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 129KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Newidiadau argraffu i'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 178KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB), diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Ebrill 2018.

Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau –  9 Ebrill 2018 (PDF, 59 KB)

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith – 9 Ebrill 2018 (PDF, 161KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau –  13 Ebrill 2018 (PDF, 101KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau -17 Ebrill 2018 (PDF, 60KB)

Rhestr o Welliannau wedi’u didoli – 24 Ebrill 2018 (PDF, 106KB)

Grwpio Gwelliannau – 24 Ebrill 2018 (PDF, 66KB)

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) (PDF, 130KB)  fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 8 Mai 2018.

Ar ôl Cyfnod 4

Ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol (PDF, 18KB), y Cwnsler Cyffredinol (PDF, 188KB) ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF, 39KB)  at y Llywydd i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF, 60KB) ar 13 Mehefin 2018.

Gwybodaeth gyswllt

Rhif ffôn: 0300 200 6565

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Ebost: deddfwriaeth@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/10/2017

Angen Penderfyniad: 26 Medi 2017 Yn ôl Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Dogfennau

Ymgynghoriadau