Ymgynghoriad
Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 16 Rhagfyr 2016 a Dydd Gwener, 10 Chwefror 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- MPAW 01 Unigolyn - Bill (William) Glyn Miller-Jones (Saesneg yn unig) PDF 55 KB Gweld fel HTML (1) 15 KB
- MPAW 02 New Economics Foundation (NEF) (Saesneg yn unig) PDF 1 MB Gweld fel HTML (2) 131 KB
- MPAW 03 Unigolyn – Karl Fry (Saesneg yn unig) PDF 42 KB Gweld fel HTML (3) 8 KB
- MPAW 04 Lynda Warren – Prifysgol Aberystwyth (Saesneg yn unig) PDF 8 MB
- MPAW 05 North Western Inshore Fisheries and Conservation Authority (Saesneg yn unig) PDF 116 KB Gweld fel HTML (5) 4 KB
- MPAW 06 Gweithgor Morol Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 794 KB
- MPAW 07 Grŵp Awdurdodau Perthnasol Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol (Saesneg yn unig) PDF 460 KB Gweld fel HTML (7) 66 KB
- MPAW 08 Marinet Limited (Saesneg yn unig) PDF 358 KB Gweld fel HTML (8) 33 KB
- MPAW 09 Cyngor Sir Ceredigion, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Dŵr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 437 KB Gweld fel HTML (9) 43 KB
- MPAW 10 Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr Gwely’r Môr (Saesneg yn unig) PDF 260 KB Gweld fel HTML (10) 30 KB
- MPAW 11 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 583 KB
- MPAW 12 Brian Saunders – Ymddiriedolaeth yr Amgylchedd Porthcawl (Saesneg yn unig) PDF 43 KB Gweld fel HTML (12) 6 KB
- MPAW 13 Ymddiriedolaeth Natur Cymru (Saesneg yn unig) PDF 764 KB
- MPAW 14 Pen Llŷn a'r Sarnau (Saesneg yn unig) PDF 321 KB Gweld fel HTML (14) 46 KB
- MPAW 15 Cymdeithas Ceblau Tanforol Ewrop (Saesneg yn unig) PDF 207 KB Gweld fel HTML (15) 30 KB
- MPAW 16 ClientEarth (Saesneg yn unig) PDF 618 KB
- MPAW 17 Royal Yachting Association & Royal Yachting Association Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 315 KB Gweld fel HTML (17) 45 KB
- MPAW 18 Cwmdeithas Pysgotwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 325 KB Gweld fel HTML (18) 49 KB
- MPAW 18 Gwybodaeth ychwanegol - Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 6 MB
- MPAW 19 Awdurdod Parc Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Saesneg yn unig) PDF 205 KB Gweld fel HTML (20) 30 KB
- MPAW 20 Unigolyn – Blaise Bullimore (Saesneg yn unig) PDF 407 KB
- MPAW 21 Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 941 KB Gweld fel HTML (22) 153 KB
- MPAW 22 Prif lwyddiannau Grwpiau Awdurdodau Perthnasol yng Nghymru / y Swyddog Safleoedd Morol Ewropeaidd (Saesneg yn unig) PDF 446 KB Gweld fel HTML (23) 45 KB
- MPAW 23 Llywodraeth Cymru PDF 1 MB
Diben yr ymgynghoriad
Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) yw'r term cyfunol ar gyfer pob ffurf ar
safleoedd cadwraeth natur gwarchodedig yn yr amgylchedd morol ac arfordirol.
Gall safleoedd gael eu dynodi o dan ddeddfwriaeth ddomestig, Ewropeaidd a rhyngwladol.
Gall MPAs gael lefelau gwahanol o gyfyngiad, er enghraifft, Parthau Dim Cymryd
lle gwaherddir nifer o weithgareddau, MPAs aml-ddefnydd lle gellir caniatáu
llawer o weithgareddau os nad ydynt yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt a
chynefinoedd y mae'r safle wedi'i ddynodi ar eu cyfer. Nid oes gan Gymru
unrhyw Parthau Dim Cymryd, dim ond MPAs aml-ddefnydd. MPAs yw'r prif adnodd i
warchod bioamrywiaeth tra'n cydbwyso natur am-ddefnydd yr amgylchedd morol drwy
reoli gweithgareddau ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae'r moroedd o amgylch Cymru yn cyfrif am dros hanner arwynebedd Cymru.
Mae 128 o MPAs yn gorchuddio dros 5,500 milltir sgwâr, neu 35% o foroedd Cymru
a 75% o'r arfordir. Mae hyn yn cynnwys safleoedd fel Parth Cadwraeth Morol
Skomer yn Sir Benfro sydd wedi bod yn MPA ar ryw ffurf ers dros 25 mlynedd.
Yn ei ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru, mynegodd Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad bryder ynghylch lefel y flaenoriaeth yr
oedd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r amgylchedd morol. Ymhlith ei
argymhellion, roedd rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi'i nodi fel maes
blaenoriaeth ar gyfer gwella.
Galwodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn galw am
dystiolaeth i ategu ei ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng
Nghymru.
Amcanion
yr ymchwiliad
- Asesu'r gwaith o
reoli ardaloedd morol gwarchodedig Cymru gyda'r bwriad o ganfod cyfleoedd
i wneud y gorau o'r manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a
diwylliannol a all ddeillio ohonynt.
- Deall beth fydd y
goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd morol
gwarchodedig a nodi unrhyw faterion y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn
ystod y broses o adael.
Roedd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar y cylch gorchwyl
ac yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
- A yw'r gwaith o reoli moroedd Cymru yn cael
digon o adnoddau a chyfeiriad strategol i alluogi rheolaeth gynaliadwy
sy'n cefnogi lles cenedlaethau heddiw a'r dyfodol?
- Sut y dylai Datganiadau Ardal, i'w datblygu
gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gwmpasu moroedd Cymru?
- (Er enghraifft, a
ddylai'r môr ger pob Awdurdod Lleol yng Nghymru gael ei gynnwys yn y
Datganiad Ardal, neu a ddylai'r amgylchedd morol gael ei ystyried ar
wahân mewn un Datganiad Ardal Morol neu fwy?)
- Pa mor dda mae MPAs Cymru yn cael eu rheoli
ar hyn o bryd?
- (Gall hyn gynnwys
agweddau fel cyflwr y safleoedd, staff i gyflawni gweithgareddau rheoli,
goruchwylio a gorfodi a'r data ar y graddau o weithgareddau sy'n digwydd
mewn MPAs)
- Beth yw'r prif faterion sy'n effeithio ar
reoli MPAs aml-ddefnydd yn effeithiol?
- A yw MPAs presennol Cymru yn amddiffyn y
gwaith o warchod bioamrywiaeth morol Cymru yn iawn?
- Pa wersi y gellir eu dysgu o'r
gweithgareddau rheoli MPA presennol yng Nghymru (gan gynnwys dynodi,
gweithredu a gorfodi)?
- A oes enghreifftiau o MPA neu arferion mewn
mannau eraill y gall Cymru ddysgu ohonynt?
- Mae'r rhan fwyaf o MPAs Cymru wedi'u dynodi
o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE. Sut y dylai dull Llywodraeth Cymru o
reoli MPA ystyried penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd?
- Pe byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad
i Lywodraeth Cymru o blith yr holl bwyntiau a nodwyd gennych, pa
argymhelliad fyddai hwnnw?
- A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion
eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?
Arolwg
Mae'r Pwyllgor hefyd wedi paratoi arolwg, sydd ar gael ar-lein.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn
defnyddio eich gwybodaeth yn http://cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau.
Dogfennau ategol
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru – Rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru 1 PDF 1 MB
- Cyngor Cefn Gwlad Cymru – Rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru 2 PDF 913 KB
- Gwarchod Moroedd Cymru - Crynodeb arolwg - Rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru PDF 556 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565