Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru

Inquiry_Stage_05-w

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr ymchwiliad hwn er mwyn:

  • Asesu dulliau o reoli ardaloedd morol gwarchodedig Cymru er mwyn nodi cyfleoedd i wneud y gorau o’r manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a all ddeillio ohonynt.
  • Deall sut y  bydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ardaloedd morol gwarchodedig a nodi unrhyw faterion y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn ystod y broses honno.

 

Casglu tystiolaeth

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ac mae'r rhain wedi'u cyhoeddi.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith, ar 1 Chwefror 2017, 30 Mawrth 2017 a 5 Ebrill 2017. Ar 14 Mehefin 2017, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn tystiolaeth gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Y Llanw’n troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig (PDF 1MB) ar 7 Awst 2017. Ymatebodd (PDF 220KB) Llywodraeth Cymru ar 30 Hydref 2017.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2016

Dogfennau

Ymgynghoriadau