Ymgynghoriad
Grwpiau Trawsbleidiol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2022 a Dydd Gwener, 2 Medi 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 1. Kaleidoscope (Saesneg yn unig) PDF 97 KB
- 2. Grŵp Llafur Cymru PDF 125 KB
- 3. Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 138 KB
- 4. Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol (Saesneg yn unig) PDF 9 KB
- 5. ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 122 KB
- 6. Age Cymru (Saesneg yn unig) PDF 17 KB
Diben yr ymgynghoriad
Grwpiau Trawsbleidiol yw grwpiau
wedi’u sefydlu gan Aelodau o’r Senedd mewn perthynas ag unrhyw faes pwnc sy’n berthnasol
i’r Senedd gyda chynrychiolwyr o o leiaf dri grŵp plaid a gynrychiolir yn y Senedd. Gall
aelodau allanol ymuno hefyd. Mae grwpiau o’r fath yn rhan werthfawr o’r broses
ddemocrataidd ac yn cynnig fforwm i Aelodau o wahanol grwpiau gwleidyddol drafod
buddiannau a rennir mewn meysydd pwnc sy’n berthnasol i’r Senedd.
Yn 2013, cafodd
cyfres o Reolau
ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol eu mabwysiadu gan y Senedd. Yn
ogystal â nodi gofynion Aelodaeth mae’r rheolau hyn hefyd yn ei gwneud yn
ofynnol i grwpiau:
>>>>
>>>ethol
Cadeirydd ac ysgrifennydd, ac mae’n rhaid i’r Cadeirydd fod yn Aelod o’r
Senedd; a
>>>chyflwyno
gwybodaeth berthnasol o fewn amserlenni penodedig i'r Swyddfa Gyflwyno gan
gynnwys rhybudd ymlaen llaw o gyfarfodydd, cofnodion, ac adroddiad blynyddol a
datganiad ariannol o fewn 12 mis i'r adeg y cofrestrwyd y grŵp am y tro cyntaf.
<<<
Mae’r Pwyllgor
Safonau Ymddygiad wedi cytuno i adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer Grwpiau
Trawsbleidiol i ystyried a yw’r rheolau yn darparu canllawiau digonol, a ydynt
yn glir, yn hygyrch ac yn dryloyw i randdeiliaid allweddol ac a ydynt yn parhau
i fod yn addas i’r diben yn ystod y Chweched Senedd.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y
Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r
Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y
bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno
yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno
yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn
disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I
bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn
saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565