Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan, rydych yn cytuno i osod nifer fechan o gwcis. Polisi cwcis

Ymgynghoriad

Hawliau plant yng Nghymru

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad byr ar hawliau plant yng Nghymru i adolygu effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Bydd yn ystyried:

  • i ba raddau y mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011  wedi dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei dyraniadau ariannol a ph’un a yw wedi cyflawni 'mesurau cyffredinol' y Confensiwn o weithredu;
  • tystiolaeth a yw'r Mesur wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant a phobl Ifanc;
  • a yw'r dyletswyddau yn y Mesur wedi'u sefydlu'n effeithiol ar draws polisi a phortffolios cabinet Llywodraeth Cymru;
  • i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau bod ei ddyletswyddau o fewn y Mesur yn cael eu cyfleu yng ngwaith y cyrff cyhoeddus y mae’n eu cyllido gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff y GIG;
  • i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn ymhlith y cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc;
  • sut mae'r ddyletswydd i gael 'sylw dyledus' i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei gweithredu'n ymarferol ac a yw Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn cael eu defnyddio fel adnodd ystyrlon;
  • effeithiolrwydd y Cynllun Hawliau Plant ac adroddiad cydymffurfio diweddaraf Llywodraeth Cymru ac i ba raddau y maent yn dangos tystiolaeth o weithredu digonol ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Mesur yn cael ei weithredu'n llawn;
  • pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb yn strategol i Sylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe bai rhanddeiliaid yn anfon tystiolaeth erbyn 17:00, dydd Gwener 20 Medi 2019.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565

 

 

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Busnes y Cynulliad

Partneriaid a Helpu