Ymgynghoriad

Ymchwiliad i effeithlonrwydd ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yng Nghymru.   

 

Cylch gorchwyl

 

  • Edrych ar y cynnydd a wneir o ran cyrraedd targedau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018.
  • Ystyried effaith rhaglenni effeithlonrwydd ynni presennol Llywodraeth Cymru (Nest ac Arbed), a mentrau fel y Fargen Werdd gan Lywodraeth y DU.
  • Adolygu pa mor effeithiol yw’r cyflenwyr ynni mawr, hyd yma, o ran rhoi Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni (ECO) a chamau eraill i liniaru tlodi tanwydd yng Nghymru ar waith.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Datgelu Gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.