Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 31/01/2024 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

(09.30-10.30)

2.

Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Dr David Clubb, Cadeirydd - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Dr Jennifer Baxter, Dirprwy Gadeirydd - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

 

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru - Adroddiad Blynyddol 2022/23 (PDF 5.9MB)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru.

(10.30)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.1

Cyllideb Ddrafft 2024-25

Dogfennau ategol:

3.2

Cynllun Cymunedol y Dreth Gwarediadau Tirlenwi

Dogfennau ategol:

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

5.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

6.

Trafod yr adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.

7.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomataidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio cyfreithiol ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cerbydau Awtomataidd.

8.

Bil Seilwaith (Cymru) - trefn y broses ystyried yng Nghyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â thrafodion Cyfnod 2.

8.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, cytunodd y Pwyllgor i amrywio trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar Bil Seilwaith (Cymru), ac i ystyried adrannau’r Bil yn y drefn a ganlyn:

Adrannau 1-60; Atodlen 1; Adrannau 61-90; Atodlen 2; Adrannau 91-142; Atodlen 3; Teitl Hir.