Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 31/01/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells AS a Buffy Williams AS. Roedd Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwy.

1.3     Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog - 13 Rhagfyr 2023

Dogfennau ategol:

2.2

Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru

Dogfennau ategol:

2.3

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Dogfennau ategol:

2.4

Cyswllt Ffermio

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru Panel 1 – Safbwynt Cymreig

Yr Athro Dylan Jones-Evans

Tegid Roberts

 

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar Fanc Datblygu Cymru.

3.2     Cytunodd yr Athro Dylan Jones-Evans i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi gwybodaeth ychwanegol am Fanc Datblygu Cymru

 

(10.30-10.35)

4.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cofnodion:

4.1     Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi i ofyn am wybodaeth ychwanegol.

 

(10.35)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1      Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(10.35-10.40)

6.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.40-10.55)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Cytuno ar yr adroddiad

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno

 

(10.55-11.15)

8.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)

Cofnodion:

8.1     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adroddiad cynnydd.

 

(11.15-11.20)

9.

Dyfodol Dur yng Nghymru: trafod y dull craffu

Cofnodion:

9.1     Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu a chytunwyd arno.