Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/02/2024 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS.

 

(09:30 -10:30)

2.

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr gofal sylfaenol a gofal eilaidd

Dr Rowena Christmas, Cadeirydd - Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Dr Hilary Williams, Is-lywydd Cymru – Coleg Brenhinol y Meddygon

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
Papur 2 – Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Papur 3 – Coleg Brenhinol y Meddygon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r sector gofal sylfaenol ac eilaidd.

2.2 Cytunodd Lisa Turnbull, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, i ddarparu manylion am strategaeth gomisiynu ôl-raddedig genedlaethol ar gyfer nyrsio y mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi bod yn galw amdani. 

 

(10:45 - 11:45)

3.

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Dai Davies, Arweinydd Ymarfer Proffesiynol Cymru – Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
Calum Higgins, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru – Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

 

Papur 4 – Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Papur 5 – Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

3.2 Cytunodd Dai Davies, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, i rannu copi o'r adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan nifer o'r Colegau Brenhinol ynghylch y cysylltiad rhwng cyflyrau cronig a phobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig gyda'r Pwyllgor. Cytunodd Dai Davies hefyd i rannu copi o ymateb Llywodraeth Cymru, pan fydd ar gael.

3.3 Cytunodd Dai Davies i rannu copïau o adroddiadau yn manylu ar sut y gall cyrchu gwasanaethau a ddarperir gan therapyddion galwedigaethol leddfu'r pwysau ar GIG Cymru a bod yn gost-effeithiol iddo.

 

(11:45)

4.

Papurau i'w nodi

4.1

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i'r Cadeirydd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor: Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf.

 

(11.45)

5.

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod heddiw a'r cyfarfod ar 28 Chwefror 2024

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11:45 - 12:00)

6.

Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12:00 -12:20)

7.

Atal iechyd gwael - gordewdra: papur cwmpasu

Papur 6 – papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y papur cwmpasu, yn amodol ar newidiadau mân.

 

(12.20-12.30)

8.

Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA)

Papur 7 – Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes.