Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/05/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

(9:30-10:30)

2.

Sesiwn Dystiolaeth - Cyllidau a Llywodraethu'r GIG (Rhan 1)

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Judith Paget – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Phrif Weithredwr GIG Cymru

Nick WoodDirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Hywel Jones – Cyfarwyddwr, Cyllid, GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd yr Aelodau’r tystion fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllidau a Llywodraethu’r GIG.

(10:40-11:40)

3.

Sesiwn Dystiolaeth - Cyllidau a Llywodraethu'r GIG (Rhan 2)

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Judith Paget – Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Phrif Weithredwr GIG Cymru

Nick Wood – Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Hywel Jones – Cyfarwyddwr, Cyllid, GIG Cymru

Cofnodion:

3.1 Holodd yr Aelodau’r tystion fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllidau a Llywodraethu’r GIG.

(11:40)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer y cyfarfod cyfan ar 15 Mai 2024

Cofnodion:

4.1 Cytunwyd ar y cynnig.

(11:40-12:00)

5.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd - Cyllid a Llywodraethu'r GIG

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Llywodraeth ynghylch materion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth i ofyn am ymateb.

(12:00-12:20)

6.

Adroddiad Archwilio Cymru - Llywodraethu Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd i gadw golwg ar y sefyllfa ac aros am  ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.