Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/04/2018 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan
Rhianon Passmore AC. |
||
(09.15 - 10.15) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4 Sarah Rees,
Cyfarwyddwr, Career Women Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Sarah Rees |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 5 Dilwyn Roberts-Young, Is-Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC Jenny Griffin, Trefnydd Ardal, Unsain Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Dilwyn
Roberts-Young, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC ·
Jenny
Griffin, Trefnydd Ardal, Unsain 3.2
Yn ystod y
sesiwn dystiolaeth, cytunodd UCAC i ddarparu'r adroddiad o'r gwaith a wnaed yn
San Steffan mewn perthynas ag athrawon sy'n gweithio yn hwyrach yn eu bywydau,
oherwydd newidiadau i bensiynau. 3.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd
UCAC ac Unsain i ddarparu: ·
enghreifftiau
o arfer da o ran cyngor gyrfa gan gyflogwyr; ·
eu barn ar
effaith awtomeiddio ar rôl athrawon, gan gynnwys unrhyw werth a roddir yn y
dyfodol ar agwedd ofalgar y rôl. |
|
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Nodiadau trafodaethau grwpiau ffocws mewn perthynas â beichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a
Nododd y Pwyllgor nodiadau trafodaethau'r grwpiau ffocws. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ymateb. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod am weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 3 Mai 2018 Cofnodion: 5.1
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Ymchwiliad i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2 a 3 Cofnodion: 6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3. |