Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Diolchodd
y Cadeirydd i Neil Hamilton a Jack Sargeant am eu gwaith fel aelodau o'r
Pwyllgor a chroesawodd Caroline Jones a Jane Hutt fel aelodau newydd yn eu lle.
1.2
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Caroline Jones; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan. |
||
(09:30 - 11:00) |
Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiynydd y Gymraeg Meri Huws, Gomisiynydd
y Gymraeg Dyfan Sion, Cyfarwyddwr
Strategol Gwenith Price, Cyfarwyddwr
Strategol Lawrlwythiadau: Cymraeg
Adroddiad Blynyddol 2017-18 ‘Mesur
o Lwyddiant’ – Adroddiad Sicrwydd 2017-8 Crynodeb
o ‘Mesur o Lwyddiant’ – Adroddiad Sicrwydd 2017-18 Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2
Cytunodd Gwenith Price i roi i'r Pwyllgor enwau'r ddau fwrdd iechyd sy’n cymryd
15 diwrnod ar gyfartaledd i ateb negeseuon e-bost Cymraeg, fel y cyfeiriwyd
atynt yn Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18. |
|
(11:00 - 12:00) |
Gwaith craffu blynyddol ar Gyngor Celfyddydau Cymru Nick Capaldi,
Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru Gwyn Williams, Cyfarwyddwr
Cyllid a Gwasanaethau Busnes Lawrlwytho: Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: 4.1
Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor y cynnig. |
||
(12:00 - 12:15) |
Sesiwn friffio breifat Cofnodion: 5.1
Trafododd aelodau'r Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y
camau a ganlyn: ·
Ysgrifennu
at Gomisiynydd y Gymraeg, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r
Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â nifer o
faterion a godwyd yn ystod sesiwn Comisiynydd y Gymraeg; ac ·
Ysgrifennu
at Adran Llywodraeth y DU dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon a Phwyllgor Senedd y DU dros Faterion Digidol, Diwylliant, y
Cyfryngau a Chwaraeon ynglŷn â phwynt a godwyd yn ystod sesiwn Cyngor
Celfyddydau Cymru o ran cyllid loteri. |
|
(12:15 - 12:30) |
Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach: Trafod ymatebion i’r ymgynghoriad Cofnodion: 6.1
Trafododd aelodau'r Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunwyd pwy i’w
gwahodd i roi tystiolaeth lafar yn y sesiynau sy'n weddill ar gyfer yr
ymchwiliad. |